Wn i ddim a ydych chi’n gyfarwydd â Joe.co.uk, ond mae’n rhyw fath o gwmni fideos sydd ar nifer o blatfformau fel Facebook ac YouTube, ag iddo is-adrannau fel JoeSports a JoePolitics, sy’n arddel safbwynt asgell chwith. Ond fel gyda’r Guardian, a phob cyhoeddiad Seisnig arall boed dde neu chwith, mae bob amser cyfle a gwerth mewn sathru ar y Gymraeg.