Gyda Warren Gatland wedi dewis ei chwaraewyr ar gyfer Gemau’r Hydref, mae Seimon Williams yn dadansoddi. Ond cyn hynny, mae am drafod y diweddglo siomedig i dymor rhyngwladol y menywod…

Y tro diwethaf i’r golofn hon ymddangos rhwng cloriau Golwg, roedd tîm menywod Cymru newydd sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf nodedig ers tro, mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Awstralia.