Fe gafwyd dathlu mawr ar gae Caergybi nos Wener ddiwethaf wrth i’r clwb o drydedd haen pêl-droed Cymru drechu un o glybiau’r Uwch Gynghrair.

Mae Caneris Caernarfon wedi hedfan yn Ewrop eleni, ond fe lwyddodd y Moniars i gadw’r gêm Cwpan Cymru yn ddi-sgôr am 90 munud, cyn camu ymlaen i ennill yr ornest ar giciau o’r smotyn.

Er gwaetha’r tywydd garw, roedd cefnogwyr Caergybi ar ben eu digon ac yn dawnsio yn y glaw .

Llun: FA Cymru