Roedd hi’n anodd credu y gallai fynd yn waeth yn Gaza a Libanus, ond dyna sy’n digwydd.

Yn hytrach na rhoi diwedd ar awydd Israel i ddial, mae lladd arweinydd Hamas wedi sbarduno ei llywodraeth i fynd ymhellach ac ynghynt.

Mae’n anodd peidio ag osgoi’r casgliad fod Netanyahu a’i eithafwyr yn y llywodraeth yn manteisio ar etholiad yr Unol Daleithiau i daro’n ddilyffethair.