Annwyl Wynford,

Oherwydd fy magwraeth, mae gen i’r ymdeimlad yma bod rhaid imi wneud popeth yn berffaith. Agwedd gyfrannodd at hynny oedd imi gael 94% mewn arholiad Mathemateg unwaith – a Mam yn dweud, heb wên ar ei hwyneb: “Mi ddylet ti fod wedi cael 100%!”