Mae Cyngor Gwynedd yn gwahodd sylwadau gan gymunedau lleol am dwristiaeth yn y sir.

Bydd eu harolwg, sydd ar agor tan fis nesaf (Tachwedd 15) yn ceisio barn trigolion lleol am sawl agwedd ar dwristiaeth, gan gynnwys unrhyw effaith bositif neu negyddol ar gyflogaeth, ansawdd bywyd, yr amgylchedd, treftadaeth a diwylliant Cymreig, a mwy.

Mae’r arolwg yn cael ei reoli’n llwyr gan y Cyngor, a’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Mae’r arolwg ar gael ar wefan y Cyngor, neu mae modd cael hyd i gopi papur mewn llyfrgelloedd yn y sir, neu drwy e-bostio’r Cyngor, sydd â chopïau mewn sawl fformat gwahanol.

Arolwg “amserol”

“Rydym yn awyddus i ddysgu mwy am yr effaith y mae twristiaeth yn ei gael ar ein cymunedau yma yng Ngwynedd a beth yw’r manteision a’r anfanteision sy’n deillio ohono,” meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros yr Economi a Chymuned.

“Mae’r arolwg hwn yn amserol gan fod blwyddyn wedi pasio ers i ni lansio Cynllun Gwynedd ac Eryri 2035, sef y Cynllun Strategol ar gyfer twristiaeth gynaliadwy yn yr ardal.

“Bwriad y cynllun yw cynorthwyo’r ardal i gefnogi twristiaeth gynaliadwy i’r dyfodol.

“Dyma gyfle hefyd i fynegi barn ar effeithiau twristiaeth ers dynodi Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2021.

“Bydd canfyddiadau’r arolwg yn helpu ni i lywio polisi twristiaeth i’r dyfodol, ac ein galluogi i ymateb yn y ffordd orau i gyfarch anghenion lleol ein cymunedau.

“Os oes gennych farn ar y mater, byddwn yn eich annog i gymryd ychydig funudau i lenwi’r holiadur.”