Mae Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu hethol ym mhedwar llu Cymru.

Mae ymgeiswyr o bob un o’r pedair prif blaid wleidyddol – Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol – yn sefyll ym mhob ardal ar Fai 2.

Cyfrifoldeb y comisiynwyr heddlu a throsedd ydy gosod blaenoriaethau a chyllidebau lluoedd yr heddlu, a nhw sy’n penodi Prif Gwnstabliaid hefyd.

Cyn yr etholiad, mae golwg360 wedi bod yn siarad â’r ymgeiswyr yn y lluoedd, a dyma gyfle i ddysgu mwy am y pedwar sy’n ymgeisio am y rôl gyda Heddlu’r De.


Dennis Clarke, Plaid Cymru

Un o’r Barri yw Dennis Clarke, ac mae’n gyfreithiwr wrth ei waith. Trosedd, teulu, dryllau, yr amgylchedd a chynllunio yw ei brif arbenigeddau.

“Fy uchelgais yw i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a’i staff fod yn ffrindiau, yn weision ac yn bencampwyr i chi, er mwyn datblygu Heddlu’r De i fod cystal ag y gall fod.

“Dylech chi deimlo’n gyfforddus yn gweithio gyda nhw ac ymddiried ynddyn nhw. Dw i eisiau i bob gweithiwr yn Heddlu’r De ymfalchïo yn eu rôl wrth helpu i ofalu am ein cymunedau.

“Dw i’n gwybod beth sy’n mynd o’i le yn y System Gyfiawnder Troseddol. Dw i’n gwybod sut y dylai edrych. Dw i wedi bod yn gyfreithiwr cymorth cyfreithiol, ac wedi bod ynghlwm wrth nifer o bwyllgorau cyfiawnder ers tua 50 mlynedd. Mae fy ymrwymiad i wella’r system yn un hirsefydledig.

“Bu’r holl amser dreuliais i’n gweithio i esgor ar newid yn y gyfraith yn baratoad ar gyfer rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

“Mae’r ddealltwriaeth sydd gen i o sut mae pob rhan o’r System Gyfiawnder Troseddol yn perfformio, a sut y dylai berfformiad, heb ei hail.

“Mae fy ymrwymiad i chi ac i’r System Gyfiawnder Troseddol yn unig.

“Fydda i ddim yn byped i’r un awdurdod allai fod yn cyfyngu ar fy ngweledigaeth. Fydda i ddim yn ymddiheurwr gwleidyddol am benderfyniadau’r llywodraeth. Dw i’n poeni am bobol gyffredin erioed, a brwydro drostyn nhw.

“Fe wnaeth fy ngwybodaeth o’r system a’r rheiny sy’n gweithio ynddi brofi i mi fod pawb yn y system eisiau ei gwneud hi cystal ag y gall fod. Dyna pam y byddwn ni’n gallu cydweithio’n dda wrth wneud defnydd o fy sgiliau.

“Gyda mi, bydd eich pleidlais yn cael effaith. Dw i’n barod i dderbyn y rôl a’r her.

“Dewch gyda fi i gymryd rhan mewn brwydr go iawn dros dde Cymru well – gwell i ni i gyd.”


Emma Wools

Mae Emma Wools yn gweithio ym maes y Gwasanaeth Prawf yn ardal Caerdydd ers 2001.

“Ces i fy ngeni a’m magu yn ne Cymru, ac yn gweithio yma.

“Mae fy nghalon a’m cartref yma yn ein dinasoedd bywiog, ein cymunedau tosturiol, a threfi’r cymoedd lle dw i wedi cyflwyno gwasanaethau i atal troseddau a gwarchod y cyhoedd rhag niwed ers dros 23 o flynyddoedd. Yn arweinydd sydd wedi ennill gwobrau, mae gen i sgiliau a gwybodaeth o weithio mewn carchardai a’r Gwasanaeth Prawf, plismona a diogelwch cymunedol, a byddaf yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed ym maes plismona, ac yn sefyll dros y materion sy’n bwysig i chi.

“Mae angen Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar bobol de Cymru sy’n gwybod drosti ei hun yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu bob dydd yn ein cymunedau. Mae gen i’r profiad personol a phroffesiynol wrth herio’r troseddau a’r niwed sy’n cael effaith ar le’r ydyn ni’n byw, ein teuluoedd a’n ffrindiau.

“Mae gen i hanes profedig o herio plismona a chyfiawnder troseddol, a minnau’n Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd y De ar hyn o bryd. Dw i wedi arwain a rheoli partneriaethau ar draws cyfiawnder troseddol: wrth herio trais ymhlith pobol ifanc, trais yn erbyn menywod a merched, cyffuriau ac ecsbloetio. Dw i’n angerddol am weithio er mwyn gwella bywydau’r rheiny y mae eu llais yn cael ei glywed yn llai aml ond sy’n dioddef fwyaf, er mwyn sicrhau bod cyfiawnder yn deg a bod plismona’n gweithredu ar yr hyn sydd bwysicaf.

“Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd drosoch chi, byddaf yn canolbwyntio ar:

  • plismona cymunedol
  • atal troseddau
  • gwarchod y rhai bregus, cefnogi dioddefwyr a chymunedau, gan gynnwys ar-lein
  • cyflwyno cyfiawnder o ran y rhai sy’n cyflawni troseddau, a lleihau aildroseddu
  • gwneud plismona’n addas ar gyfer y dyfodol

“Byddaf yn cydweithio â chi i gryfhau a gwella dyfodol plismona a chyfiawnder troseddol yn ne Cymru, cyflwyno gwasanaethau i’ch cadw chi’n ddiogel, lle gall pob cymuned fod yn hyderus.”


George Carroll, Ceidwadwyr Cymreig

Mae George Carroll yn gweithio fel uwch ymgynghorydd i Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Mae’n gynghorydd ym Mro Morgannwg ac yn arweinydd yr wrthblaid.

“Dw i wedi byw yn ne Cymru ar hyd fy oes.

“Mae’r gymuned wrth galon popeth dw i’n credu ynddo. Dyna pam fy mod i’n gwasanaethu fel cynghorydd lleol a llywodraethwr ysgol. Dyna pam fy mod i’n angerddol am wneud ein cymunedau’n fwy diogel. A dyna pam dw i’n sefyll i fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd drosoch chi.

“Dw i wedi bod yn cydweithio â thrigolion ledled y de ar gynllun i warchod ein cymunedau. Bydd ein cynllun yn:

  • sicrhau mwy o blismyn, a strydoedd mwy diogel – drwy sicrhau bod yr holl adnoddau’n canolbwyntio ar blismona craidd a gwasanaethau rheng flaen. Drwy fanteisio ar holl grantiau recriwtio’r heddlu gan y llywodraeth. A thrwy ragori ar holl dargedau recriwtio’r heddlu
  • atal troseddau treisgar a gangiau cyffuriau – drwy ddefnyddio dulliau atal a chwilio effeithiol i wneud ein strydoedd yn ddiogel
  • atal ymddygiad gwrthgymdeithasol – drwy gymryd agwedd dim goddefgarwch
  • brwydro yn erbyn eithafiaeth – drwy roi’r holl adnoddau i’r heddlu sydd eu hangen arnyn nhw i’n gwarchod ni rhag brawychiaeth. A hyrwyddo rhaglen Prevent y llywodraeth mewn modd gweithgar er mwyn atal radicaleiddio
  • atal dwyn o siopau – gyda phatrolau mewn mannau penodol o bwys sydd wedi’u targedu. A thrwy fuddsoddi mewn mwy o gamerâu cylch-cyfyng a goruchwylio.
  • torri troseddau gwledig – drwy gynnal a chadw tîm troseddau gwledig ymroddedig i warchod ein cymunedau cefn gwlad a ffermydd

“Ond alla i ddim gweithredu ein cynllun ar fy mhen fy hun. Mae angen eich help chi arnom ni i’w weithredu.

“Ein Comisiynydd Heddlu a Throsedd sy’n gosod blaenoriaethau strategol yr heddlu. Dyna pam fy mod i’n gofyn i chi, pwy bynnag rydych chi fel arfer yn eu cefnogi, i ymuno â’ch cymdogion a rhoi eich pleidlais i mi.

“Drwy roi eich pleidlais i mi, byddwch chi’n helpu i gyflwyno ein Cynllun. Gyda’n gilydd, byddwn ni’n sicrhau mwy o blismyn a strydoedd mwy diogel. A byddwn ni’n gwneud ein holl gymunedau’n ddiogel.”


Sam Bennett, Democratiaid Rhyddfrydol

Mae Sam Bennett yn rheolwr marchnata ac yn byw yn Abertawe.

“Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd y De, fel prif flaenoriaeth, byddwn i’n ceisio adfer ymddiriedaeth, cysylltiadau ac ymgysylltu cymunedol ar draws ardal Heddlu’r De.

“Rhaid i ni adfer ymddiriedaeth y gymuned yn ein heddlu yn dilyn terfysgoedd yn Abertawe a Chaerdydd dros y bum mlynedd ddiwethaf. Byddaf yn ceisio gwyrdroi toriadau cyllidebol ar gyfer ymyrraeth ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol, a sicrhau bod ymgysylltu mewn cymunedau ac ysgolion yn flaenoriaeth er mwyn adeiladu pontydd ar draws ein cymunedau, gan olygu bod ein heddlu’n weladwy unwaith eto ar ein strydoedd.

“Byddaf yn lleihau nifer y Dirprwy Gomisiynwyr ledled Heddlu De Cymru, yn ailfuddsoddi’r arian yma mewn plismona rheng flaen ac yn ymgyrchu’n frwd dros ddatganoli plismona. Bydd y ddau bolisi yma’n dod â phlismona yn nes at bobol Cymru. Byddaf yn lansio rhaglen o ymweliadau cymunedol ar unwaith i ddarganfod beth rydych chi eisiau i’r heddlu ei wneud yn eich ardal chi.

“Mae’n bryd mabwysiadu agwedd fwy tosturiol tuag at droseddau’n ymwneud â chyffuriau, a chan ddefnyddio swydd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd byddaf yn blaenoriaethu ac yn gwthio’r ddwy lywodraeth i ganolbwyntio ar raglenni adfer, dull fyddai’n lleihau aildroseddu a’r pwysau ar ein system llysoedd.

“Fel eich Comisiynydd Heddlu a Throsedd, byddwn yn ceisio rhoi terfyn ar y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau, gan ei fod yn ei hanfod yn torri hawliau pobol i breifatrwydd ac yn gwahaniaethu yn erbyn pobol Ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol. Mae’n cael ei ddefnyddio’n amlach mewn ardaloedd lle mae poblogaeth ethnig lleiafrifol fawr, ac mae’n wael am adnabod pobol o’r cefndiroedd hyn. Rhaid rhoi’r dechnoleg hon i’r naill ochr er mwyn adfer ymddiriedaeth ein cymunedau.”