Bydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu hethol ym mhedwar llu Cymru yr wythnos nesaf.

Bydd ymgeiswyr o bob un o’r pedair prif blaid wleidyddol – Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol – yn sefyll ym mhob ardal ar Fai 2.

Cyfrifoldeb y comisiynwyr heddlu a throsedd ydy gosod blaenoriaethau a chyllidebau lluoedd yr heddlu, a nhw sy’n penodi Prif Gwnstabliaid hefyd.

Cyn yr etholiad, mae golwg360 wedi bod yn siarad â’r ymgeiswyr yn y lluoedd, a dyma gyfle i ddysgu mwy am y pedwar sy’n ymgeisio am y rôl gyda Heddlu’r Gogledd.


Richard Marbrow, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig

Un o’r Wyddgrug ydy Richard Marbrow, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, a bu’n gynghorydd yn Lerpwl cyn symud i’r gogledd-ddwyrain.

Richard Marbrow

Beth fyddai eich blaenoriaethau?

1. Trais yn erbyn menywod a merched

Mae gen i ormod o ffrindiau sy’n cerdded gyda’u hallweddi yn eu dyrnau rhag ofn eu bod nhw’n dod ar draws rhywun sy’n dymuno’u niweidio nhw, ac mae gormod o rieni yn poeni pan mae eu plant nhw allan. Mae sicrhau bod troseddau yn erbyn menywod a merched yn cael eu harchwilio’n sydyn ac yn fanwl, a throseddwyr yn cael eu herlyn, yn flaenoriaeth. Rhaid i hyn gynnwys troseddau mewn mannau cyhoeddus a thrais domestig. Dylai menywod fod â ffydd bod yr heddlu’n canolbwyntio ar atal troseddau treisgar a dal troseddwyr.

2. Troseddau ar-lein

Mae troseddau ar-lein ar gynnydd, ac yn aml yn targedu aelodau mwyaf agored i niwed y gymdeithas. Mae dwyn seibrofod llawn mor niweidiol â lladrata, a dylai unrhyw Gomisiynydd Heddlu a Throsedd godi ymwybyddiaeth o’r mater.

Pam mai chi ydy’r person gorau ar gyfer y swydd?

Profiad a chydbwysedd. Dw i wedi gwasanaethau yn Awdurdod Heddlu Glannau Mersi yn y gorffennol, ac wedi bod ynghlwm â gwleidyddiaeth ers 30 mlynedd. Mae hyn yn rhoi’r profiad angenrheidiol ar gyfer y swydd. Fel Democrat Rhyddfrydol, dw i’n credu mewn cydbwyso adferiad a chosb, atal ac erlyn, cyhoeddusrwydd a disgresiwn. Dydy Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn credu ei bod hi’n bosib cael dim lawr i slogan syml. Mae angen ymdrech, meddwl a datrysiadau cymhleth i ddatrys problemau. Mae gen i ddigon o brofiad i wybod nad oes yna atebion da, hawdd a bod angen ymdrech i wneud y gwaith

Pam ydych chi eisiau’r rôl?

Mae gwasanaeth cyhoeddus yn bwysig i fi. Gyda stad gywilyddus y llywodraeth bresennol mae’n hawdd anghofio y dylai gwleidyddion wasanaethu’r bobol, ac nid y ffordd arall. Mae plismona’n hanfodol i’n cymunedau ledled gogledd Cymru, a bydd pwy bynnag sydd ddigon lwcus i gael hyder y cyhoedd i wneud y swydd yn gallu cael effaith wirioneddol ac uniongyrchol ar fywyd a gwaith yr heddlu a’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu. Mae yna dal werth i wleidyddiaeth etholedig, a fedra i ddim meddwl am lawer o faterion pwysicach na diogelwch y cyhoedd.


Brian Jones, y Ceidwadwyr Cymreig

Yn gynghorydd sir yn Sir Ddinbych, roedd Brian Jones o’r Rhyl yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar gwmni peirianneg. Bu’n aelod Cabinet y sir ar wastraff, trafnidiaeth a’r amgylchedd cyn colli’i sedd yn yr etholiad lleol diwethaf yn 2022, ac ennill sedd arall yn y Rhyl mewn is-etholiad y llynedd.

Brian Jones

Soniwch am eich blaenoriaethau…

1. Troseddau gwledig

Dw i’n gwybod bod yr Uned Troseddau Cefn Gwlad yn bodoli, ond o siarad gyda ffermwyr, mae mwy o waith i’w wneud – a mwy o addysg i fynd i’r afael â throseddau gwledig yn un elfen bosib.

2. Peidio gwario arian ar y polisi 20m.y.a.

Dw i hefyd ddim eisiau gweld Heddlu’r Gogledd yn gwastraffu adnoddau, amser a chostau ar weithredu a chefnogi polisi 20m.y.a. Llywodraeth Cymru. Fel pawb arall, dw i o’i blaid o flaen ysgolion, ysbytai a mannau eraill lle mae pryderon am ddiogelwch ffordd.

Ond lle mae’r ffordd wedi bod yn 40m.y.a. am 30 mlynedd a fod dim data na damweiniau wedi digwydd yno sy’n dweud bod y ffordd yn beryglus, a’i bod hi nawr yn 20m.y.a, mae’n bosib bod Heddlu’r Gogledd yn gweithredu’r terfyn hwnnw tra bydden nhw’n gallu treulio amser yn gweithio i’r gymuned.

3. Adfer parch pobol tuag at yr heddlu

Er ein bod ni i gyd yn derbyn ein bod ni angen ac eisiau heddlu da yng ngogledd Cymru a ledled y Deyrnas Unedig, rhaid i ni dderbyn eu bod nhw wedi colli parch cymunedau.

Byddwn i’n edrych ar osod cynllun all helpu i adfer rhywfaint o’r parch sydd wedi cael ei golli. Hoffwn weld Heddlu’r Gogledd yn mynd i mewn i ysgolion uwchradd a chynradd yn amlach, a gweithio gydag ysgolion a rhieni i greu diwylliant gwell. Os ydych chi’n adeiladu perthnasau gyda phlant o oed cynnar, mae’n cario ymlaen pan maen nhw’n troi’n oedolion.

4. Cynnal cymorthfeydd cyson ledled y gogledd

5. Trais domestig ac ymddygiad gorfodaethol

6. Lladrata o siopa

Pam mai chi yw’r person gorau i wneud y swydd?

Dw i wedi dod o gefndir isel. Cefais fy ngeni ar stad cyngor yn y Rhyl a dw i wedi codi at lwyddiant uchel drwy deilyngdod.

Mae’n eich gadael chi gyda gwerthfawrogiad o’r gymdeithas gyfan, oherwydd roeddwn i’n Rheolwr Gyfarwyddwr ar gwmni peirianyddol wnes i ei sefydlu oedd yn delio â phobol ledled y Deyrnas Unedig, a thu hwnt yn Ewrop.

Roeddwn i’n delio â’r rheolwyr yn y busnesau hynny – y cyfarwyddwyr a’r prif weithredwyr – ond ar yr un pryd, roeddwn i’n delio gyda’r bobol oedd yn brwsio llawr y siop. Mae’n rhoi trawstoriad o fywyd a phobol i chi.

Dw i’n gyfathrebwr da. Diolch i’r profiad bywyd yna, fedra i siarad mewn unrhyw sefyllfa, a dod â phobol ynghyd.

Beth fyddai’r her fwyaf?

Dw i ddim yn ei weld o fel her, dw i’n gweld bod angen i chi greu a meithrin cydweithio o fewn strwythur Heddlu’r Gogledd a lledaenu hynny allan at yr holl bobol sydd ynghlwm â phlismona yn y gogledd.

Mae angen cynnwys y bobol rydych chi’n eu gwasanaethu. Bydda i’n was cyflogedig i’r bobol, ac mae nifer o ymgeiswyr a gwleidyddion yn anghofio hynny. Dw i’n gwybod fy mod i’n cael fy nhalu i wasanaethu pobol, ac mae hynny’n fy atgoffa i o’r dasg.

Dw i’n wrandäwr da iawn hefyd, dw i’n ystyried pethau, does gen i ddim agenda gudd, dw i’n edrych ar bethau gydag un nod – cael y canlyniad gorau i bawb sy’n cael eu heffeithio gan y mater, felly’r bobol o fewn Heddlu’r Gogledd, rheng flaen Heddlu’r Gogledd.


Ann Griffith, Plaid Cymru

Roedd Ann Griffith, ymgeisydd Plaid Cymru, yn Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd tra roedd Arfon Jones yn Gomisiynydd. Wedi’i magu yn y Bermo a newydd ddychwelyd yno i fyw y llynedd ar ôl degawdau ar Ynys Môn, mae hi wedi bod yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol, gan arbenigo mewn diogelwch plant, ers dros 40 mlynedd.

Ann Griffith

Beth fyddai eich blaenoriaethau?

1. Sicrhau bod yr heddlu’n fwy gweledol

Mae’r cyfrifoldebau ar yr heddlu yn eang iawn ac yn gymhleth iawn, mae’r math o droseddau yn datblygu’n sydyn ac yn newid drwy’r amser.

Mae o’n bosib, trwy fod ar eich cyfrifiadur, eich bod chi’n mynd i golli’ch holl arian. Mae yna gymaint o sgamwyr, mae’r peryg yn dod drwy’r ffôn, y cyfrifiadur, dydy o ddim o reidrwydd yn digwydd ar y stryd. Mae’r rhan fwyaf o bobol mewn rhyw fath o berygl arall, camdriniaeth ariannol, ac mae o’n gallu strywo bywyd rhywun. Mae’n bwysig dethol a mesur y ffordd ymlaen. Mae’r rhan fwyaf o bobol dw i’n trafod gyda nhw’n dweud eu bod nhw eisiau i’r heddlu fod yn llawer iawn mwy gweledol ac yn fwy atebol, felly mae’n rhaid rhoi sylw i hynna.

Dw i’n meddwl bod o fwy i wneud efo egwyddor na dim byd arall. Dw i eisiau gweld heddlu sy’n fwy chwilfrydig, dw i eisiau i swyddogion fod yn siarad efo pobol, gwrando ar bobol.

2. Trais domestig a thrais yn erbyn menywod a merched

Mae stelcian yn broblem enfawr, lle mae perthynas wedi dod i ben. Dw i’n teimlo bod angen strategaeth fanwl ar hynna. Dw i wedi bod yn cefnogi dioddefwraig o’r enw Rhianon Bragg, yn ei chefnogi hi dros dair blynedd a thrio’i helpu hi i ffeindio’i ffordd drwy’r system gyfiawnder, oherwydd mae hi wedi cael ei gadael i lawr yn ddifrifol gan y system gyfiawnder ac mae o wedi helpu fi i ddeall lle mae’r gwendidau.

Be’ dw i’n gweld ydy nad jyst mewn plismona mae’r broblem; mae’r broblem o fewn y swyddfa brawf, system Gwasanaeth Erlyn y Goron… Mae’r gwendid yn y llysoedd, yn bob man, ac mae angen cael adolygiad manwl i weld sut i wella’r siwrne i’r dioddefwr. Mae angen i’r system ddechrau gweithio gyda’i gilydd llawer gwell.

3. Troseddu cyfundrefnol a throseddau difrifol

Mae hynny’n cynnwys caethwasiaeth fodern a thrais gangiau ofnadwy, cyffuriau a chamddefnyddio plant yn droseddol o ran y llinellau sirol, a throseddau cefn gwlad.

Pam mai chi fyddai’r person gorau am y swydd?

Mae 40 o flynyddoedd o weithio fel gweithiwr cymdeithasol wedi rhoi lot fawr o sgiliau i mi; does yna ddim llawer o brofiadau dw i ddim wedi’u cael. Be’ mae o’n olygu? Bod yr hyder gen i i ddelio efo’r rhan fwyaf o’r sefyllfaoedd a’r heriau sy’n dod tuag ata’ i. 

Dw i’n berson sy’n gwrando, a dw i’n meddwl bod hynny’n hanfodol bwysig i’r swydd yma. Dw i wedi arfer ymgysylltu ac ymgynghori fel Dirprwy Gomisiynydd a dw i’n credu fy mod i’n gwneud hynny mewn ffordd adeiladol. Dw i’n gwybod sut i graffu ar waith y Prif Gwnstabl -eto, craffu mewn ffordd adeiladol, sy’n hollbwysig.

Pe baech chi – neu un o’r ymgeiswyr benywaidd yn y lluoedd eraill – yn cael eich ethol, chi fyddai’r fenyw gyntaf i ddod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru. Sut deimlad fyddai hynny?

Fyswn i’n falch iawn o hynna; fyswn i’n gweld am y tro cyntaf yng Nghymru y bysa yna lais llawer cryfach ar gyfer merched a menywod ifanc. Dw i’n meddwl y bysa fo’n dod â rhywbeth hollol newydd i’r bwrdd.

Fysa fo’n andros o gyfle da i greu newid mawr, nid yn unig o ran trais domestig a stelcian, ond hefyd o ran merched yn y system gyfiawnder. Mae merched yng Nghymru, ac wrth gwrs yn Lloegr, yn mynd i’r carchar am bethau hollol wahanol i ddynion ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi dioddef trawma difrifol fel plant, yn aml wedi bod drwy’r system gofal, yn aml wedi dioddef trais rhywiol, ac wedyn wedi dioddef trais domestig felly maen nhw’n ddioddefwyr. Y math o droseddau sy’n arwain atyn nhw’n mynd i’r carchar ydy pethau fel peidio talu am drwydded teledu, peidio talu treth cyngor, ddim ar y cyfan yn droseddau’n ymwneud â thrais difrifol, fel sydd gyda dynion. Mae yna gyfle i weithio gyda’r merched yma ar lefel strategaethol a rhoi sylw i hyn. 


Andy Dunbobbin, Llafur Cymru

Andy Dunbobbin ydy Comisiynydd presennol Heddlu’r Gogledd, ar ôl iddo gael ei ethol i’r swydd yn 2021. Cyn hynny, bu’n gynghorydd yn Sir y Fflint.

Andy Dunbobbin. Llun gan Mandy Jones

Beth fyddai’r blaenoriaethau?

Bydd heddlua cymunedol wastad yn flaenoriaeth i fi.

Cymunedau ydy’r edau sy’n ein clymu ni gyda’n gilydd. Dw i wedi fy ngwreiddio yn fy nghymuned, ac rydyn ni wedi llwyddo i wneud lot efo’n gilydd, ond dw eisiau gwneud mwy.

Gan adeiladu ar y llwyddiant hyd yn hyn, mae gen i bedwar piler strategol, sef presenoldeb plismona cymunedol lleol, cefnogi dioddefwyr, cymunedau a busnesau, system gyfiawnder troseddol deg ac effeithiol, a chael Comisiynydd Heddlu a Throsedd gweledol a chyfrifol.

Pam mai chi ddylai gael y swydd?

Mae’n fraint gwasanaethu fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a dw i’n canolbwyntio’n llwyr ar yr hyn sy’n bwysig i bobol, a’r materion y cefais fy ethol arnyn nhw. Mae tair blynedd wedi hedfan, ac mae craffu sylweddol wedi bod ar blismona, ac mae hynny’n iawn o beth.

Fodd bynnag, er gwaethaf heriau lleol a chenedlaethol, dw i’n credu fy mod i wedi arwain yn effeithiol a chynrychioli cymunedau’n dda.

Adref yng ngogledd Cymru, mae gostyngiad o 13.5% mewn troseddau ac mae perfformiad yn gwella.

Dangosodd arolwg diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod hyder y cyhoedd yn yr heddlu’n uwch yn y llu nag yn unman arall yng Nghymru na Lloegr, a bod troseddau’n is yma fesul 1,000 o’r boblogaeth nag ym mhob man arall, oni bai am un llu.