Ar Ddydd San Siôr heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 23), mae Liz Saville Roberts yn galw am wahaniaethu clir rhwng Seisnigrwydd a Phrydeindod.

Cafodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ei geni a’i magu yn ne-ddwyrain Llundain, ac mae hi’n galw am roi ei sefydliadau gwleidyddol ei hun i Loegr.

Yn ei rhybudd, mae Liz Saville Roberts hefyd yn annog Rishi Sunak, Prif Weinidog Ceidwadol y Deyrnas Unedig, a Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, i:

  • roi’r gorau i “gymylu’r llinellau” rhwng y naill beth a’r llall
  • deall eu bod nhw “yn siarad dros Loegr yn unig”
  • ymrwymo i adeiladu sefydliadau gwleidyddol i Loegr “sydd wir yn gwasanaethu pobol Lloegr”

‘Gwladgarwch Seisnig’

Daw sylwadau Liz Saville Roberts yn dilyn erthygl gan Syr Keir Starmer yn y Daily Telegraph ddoe (dydd Llun, Ebrill 22), lle mae’n dweud mai “Llafur yw gwir blaid gwladgarwch Seisnig”.

Yn ei erthygl, cyfeiriodd e at Loegr neu Seisnigrwydd bedair gwaith, a Phrydain neu Brydeindod chwe gwaith.

Defnyddiodd e’r gair ‘gwlad’ ddeg gwaith heb egluro ai Lloegr neu Brydain oedd dan sylw.

“Ar ran Plaid Cymru, dymunaf Ddydd San Siôr hapus i bawb sy’n dathlu,” meddai Liz Saville Roberts.

“Cefais fy ngeni, fy magu a’m haddysgu yn ne-ddwyrain Llundain, mewn teulu sydd mor Seisnig ag y mae’n bosib bod.

“Does gan Seisnigrwydd fy nheulu – er ei fod wedi’i ddiffinio’n dda yn ddiwylliannol – ddim hunaniaeth genedlaethol sifil na gwleidyddol gyfatebol.

“Mae hynny i’r gwrthwyneb i fy mhlant fy hun, sydd nid yn unig â hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig gref ond sydd hefyd yn cael eu gwasanaethu gan ddemocratiaeth fodern a sefydliadau gwleidyddol.

“Heddiw, bydd arweinwyr gwleidyddol Lloegr yn dathlu diwylliant eu cenedl, tra eu bod nhw ar yr un pryd yn amddifadu pobol Lloegr o’u sefydliadau gwleidyddol eu hunain.

“Byddan nhw’n parhau yn fwriadol i gymylu’r llinellau rhwng Prydeindod a Seisnigrwydd, sydd nid yn unig yn gwasanaethu pobol Cymru mewn ffordd ddrwg, ond y sawl sydd yn Lloegr hefyd.

‘Prydeindod gyfystyr â Seisnigrwydd’

Cyfeiria Liz Saville Roberts at farn Gwynfor Evans am Brydeindod a Seisnigrwydd, sef bod y ddau beth yn gyfystyr â’i gilydd ac yn “lledaenu diwylliant Seisnig dros yr Albanwyr, y Cymry a’r Gwyddelod”.

“Ar Ddydd San Siôr, dw i’n annog Keir Starmer a Rishi Sunak i roi terfyn ar y dryswch rhwng Prydeindod a Seisnigrwydd mewn gwleidyddiaeth,” meddai.

“A wnewch chi gydnabod eich bod chi’n siarad dros Loegr yn unig, ac ymrwymo i adeiladu sefydliadau gwleidyddol Seisnig sydd wir yn gwasanaethu pobol Lloegr.”