Bydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu hethol ym mhedwar llu Cymru’r wythnos hon.

Bydd ymgeiswyr o bob un o’r pedair prif blaid wleidyddol – Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol – yn sefyll ym mhob ardal ddydd Iau (Mai 2).

Cyfrifoldeb y comisiynwyr heddlu a throsedd ydy gosod blaenoriaethau a chyllidebau lluoedd yr heddlu, a nhw sy’n penodi Prif Gwnstabliaid hefyd.

Cyn yr etholiad, mae golwg360 wedi bod yn siarad â’r ymgeiswyr yn y lluoedd, a dyma gyfle i ddysgu mwy am y pedwar sy’n ymgeisio am y rôl gyda Heddlu Dyfed-Powys.


Dafydd Llywelyn, Plaid Cymru

Yn wreiddiol o Feifod, mae Dafydd Llywelyn wedi gwasanaethu fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys ers mis Mai 2016. Dechreuodd ei yrfa fel swyddog caffael ar gyfer SONY Manufacturing UK. Yn 2001, ymunodd â Heddlu Dyfed–Powys fel swyddog rheoli o fewn gwybodaeth. Symudodd i’r Adran Ymchwilio Troseddol fel dadansoddwr yn 2002, a chafodd ei ddyrchafu’n brif ddadansoddwr yn 2007.

Dafydd Llywelyn
Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys

Beth fyddai eich blaenoriaethau?

“Un o’r blaenoriaethau fyddai i barhau ac ymestyn y ddarpariaeth o blismona ysgolion.

“Mae Llafur wedi gwneud toriadau yn y maes hynny felly byddwn i’n ailwampio’r rhaglen ysgolion gyda darpariaeth cynlluniau atal ac ymyrraeth gynnar ym mhob ysgol, coleg a champws prifysgol.

“Byddwn i hefyd yn parhau i gynnal timau plismona bro a niferoedd y PCSOs achos, eto, mae’r blaid Lafur wedi torri’r cyllid sy’n dod ar gyfer Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu.

“Blaenoriaeth arall fyddai gwella perfformiad 101 a 999, gyda buddsoddiad o £1m i mewn i’r adran, sydd yn mynd i roi tua ugain yn fwy o staff a helpu i geisio gwella perfformiad 101 a 999.

“Trwy dimau plismona bro cryf a gwella perfformiad 101 a 999, bydd yna wasanaeth sydd, fel rydyn ni’n ei ddweud yn Saesneg, yn physical and accessible police service.

“Blaenoriaeth arall fyddai creu cronfa sydd â syniadau arloesol i sicrhau fy mod i’n gallu cydweithio gydag elusennau a grwpiau lleol trwy ddarparu’r gronfa yna o gyllideb y llu.

“O ran pethau mwy gweithredol, y blaenoriaethau fyddai trais yn erbyn menywod a merched ifainc – mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhyw yw’r ddau beth mawr. A mynd i’r afael â’r rhai sy’n cyflenwi cyffuriau yw’r flaenoriaeth arall sydd yn rhan o’r tair blaenoriaeth weithredol sydd gan y llu ar hyn o bryd.

“Ac, wrth gwrs, mae pwyso am gadw gorsafoedd heddlu gwledig ar agor yn flaenoriaeth hefyd, a rhoi mwy o adnoddau i’r timau plismona gwledig sydd gyda ni yn Nyfed-Powys.

“Wrth gwrs, blaenoriaeth arall yw sicrhau fy mod yn parhau i fod yn arweinydd dros Gymru, achos bo fi’n gyd-arweinydd y Bwrdd Trais yn Erbyn Menywod Llywodraeth Cymru.”

Pam mai chi ydy’r person gorau ar gyfer y swydd?

“Achos fy mod i’n brofiadol, ac mae gen i gefndir o weithio ym mhlismona a’r maes hynny ers 2011.

“Dw i’n gwybod fy mod i’n biased, ond does dim gyda’r ymgeiswyr eraill brofiad yn y maes.

“Dw i’n brofiadol, a dw i yn y gwaith ers tipyn o amser.

“Hefyd, os ydych chi’n edrych ar bethau dw i wedi’u cyflawni, mae gyda ni 150 yn fwy o swyddogion, 150 yn fwy o aelodau o staff, system cylch-cyfyng, dw i wedi creu’r tîm plismona gwledig, ac yn barod wedi neilltuo cyllid ar gyfer sicrhau bod y nifer o PCSOs yn cael ei gadw.

“Dw i’n siarad Cymraeg ac wedi byw yn yr ardal trwy fy oes, ac felly’n gyfarwydd iawn â’r cymunedau gwahanol sydd yn Nyfed-Powys – dw i wedi byw ym mhob un o’r pedair sir mewn cyfnodau gwahanol o fy mywyd.”


Philippa Thompson, Llafur

Mae Philippa Thompson wedi treulio ei gyrfa yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig, gan wasanaethu yn y gwasanaeth diplomyddol. Bu’n gweithio gyda’r heddlu a gwasanaethau carchardai dramor, ar ddiogelwch o safbwynt hawliau dynol, ac ar reolaeth y gyfraith.

Philippa Thompson

Beth fyddai eich blaenoriaethau?

Mae pobol yn haeddu bod yn ddiogel – ac i deimlo’n ddiogel. Mae angen gwreiddio plismona yn ein cymunedau eto. Mae angen gweithredu ar leisiau, o’r ifanc i’r hen, yn ogystal â’u clywed. Mae angen eiriolwr ar ddioddefwyr a goroeswyr y gallan nhw ddibynnu arno. Byddwn yn cyfathrebu’n rheolaidd â grwpiau cymunedol, rhanddeiliaid a thrigolion i wrando a gweithio mewn partneriaeth â nhw ar lunio plismona yn Nyfed-Powys. Byddwn hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd gyda’r Prif Gwnstabl i sicrhau bod yr heddlu’n rhedeg mor effeithlon ac effeithiol â phosibl, ac yn gwasanaethu’r gymuned hyd eithaf fy ngallu.

Fy mlaenoriaeth fydd cadw mewn cysylltiad agos â’n dinas, ein trefi a’n pentrefi, er enghraifft drwy weithio gyda’r Panel Heddlu a Throseddu sy’n cynnwys cynghorwyr sir etholedig, a gyda chynghorwyr tref a chymuned hefyd. A phan dw i’n siarad am ein cymuned, i mi mae hynny’n cynnwys ein heddlu a staff yr heddlu hefyd. Fel diplomydd ac undebwr llafur, rwy’ wedi siarad dros eraill drwy gydol fy ngyrfa.

Pam mai chi ydy’r person gorau ar gyfer y swydd?

Rwy’ wedi treulio fy ngyrfa yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig, yn gwasanaethu yn y Gwasanaeth Diplomyddol. Rwy’ wedi gweithio gyda’r heddlu a gwasanaethau carchardai dramor, ar ddiogelwch o safbwynt hawliau dynol, ac ar reolaeth y gyfraith. Rwy’n teimlo’n angerddol am ddefnyddio’r profiad proffesiynol rwy’ wedi’i ennill ar hyd fy ngyrfa i wasanaethu eraill. Rwy’ am ddod â’r sgiliau dw i wedi’u meithrin i sefyll dros fy nghymuned yma, ar draws Dyfed-Powys.

Pam ydych chi eisiau’r rôl?

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd etholedig yn golygu mwy o atebolrwydd i’r bobol gaiff eu gwasanaethu gan ein heddluoedd, o gymharu â’r hen Awdurdodau Heddlu. Rwy’n credu bod hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr i’n cymunedau. Rwy’ wedi bod allan yn siarad â phobol am sut y gall plismona ymateb i’w pryderon. Os caf fy ethol, mae’n golygu y gallaf ddefnyddio fy mhrofiad i wneud gwahaniaeth. Rwy’n gobeithio cael fy ethol ddydd Iau, Mai 2 fel y gallaf godi llais dros fy nghymuned.


Ian Harrison, Ceidwadwyr Cymreig

Cynghorydd Sir Powys sy’n byw ger y Trallwng yw Ian Harrison. Fe wnaeth e hyfforddi fel ‘Master Brewer‘, a bu’n gweithio yn y diwydiannau bragu a fferyllol. Mae’n ymgyrchydd gwleidyddol ac wedi gweithio’n lleol ar ddwy ymgyrch etholiad cyffredinol llwyddiannus, cyn cael ei ethol i’r Cyngor. Mae Ian yn llywodraethwr ysgol ers amser maith ac mae wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau gwirfoddol lleol.

Ian Harrison

Beth fyddai eich blaenoriaethau?

Rwy’ bellach wedi siarad â llawer o bobol ar hyd a lled Dyfed-Powys. Mae eu hymateb wedi bod yn gyson drwy’r cyfan. Maen nhw eisiau gweld mwy o Swyddogion ar ein strydoedd, ymateb gwell i droseddau gwledig, lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol o bob math, cyffuriau dosbarth A wedi’u lleihau’n gynhwysfawr, gwella’r ymateb i droseddau manwerthu, mynd i’r afael â cham-drin domestig yn uniongyrchol, ymateb i alwad 101 cyflymach.

Pam mai chi ydy’r person gorau ar gyfer y swydd?

Dydw i ddim yn gyn-heddlu, yn aelod o staff yr heddlu, nac yn filwr. Mae fy nghefndir yn anarferol, gydag arbenigedd mewn rheoli gweithrediadau ac arloesi rhyngwladol, yn dilyn gyrfa mewn Rheolaeth Gorfforaethol Ryngwladol ym maes bragu, distyllu a fferyllol. Roedd fy rolau fel arfer yn cynnwys monitro a rheoli perfformiad, ymchwil arfer gorau a datblygu technoleg newydd. Rwy’n credu bod y sgiliau hyn yn drosglwyddadwy ac yn arbennig o briodol i’r rôl hon.

Pam ydych chi eisiau’r rôl?

Rwy’n credu bod angen cynrychioli pobol Dyfed-Powys yn well drwy’r Swyddfa hon, a byddai profiadau fy mywyd yn fy ngalluogi i wneud y gwahaniaeth hwnnw.


Justin Griffiths, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Cafodd Justin Griffiths ei addysg yn Ysgol Gynradd Old Road ac yn Ysgol Gyfun y Graig, cyn mynd yn ei flaen i astudio Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Aston. Ar ôl graddio, roedd ei yrfa yn amrywiol, gan gynnwys cyfnod gyda British Steel, lle treuliodd 27 mlynedd yn gweithio mewn amryw o rolau ac adrannau. Mae bellach wedi ymddeol.

Justin Griffiths

Beth fyddai eich blaenoriaethau?

Byddwn yn ceisio adfer plismona cymunedol priodol, gan sicrhau bod swyddogion yn weladwy yn ein cymunedau ac nad ydyn nhw yn cael eu dargyfeirio i ardaloedd eraill. Byddwn hefyd yn dechrau meithrin ymddiriedaeth rhwng yr heddlu a chymunedau lleol.

Pam mai chi ydy’r person gorau ar gyfer y swydd?

O safbwynt profiad, gallaf weld pam ei bod yn demtasiwn pleidleisio dros rywun sydd wedi gweithio o fewn yr heddlu. Nid wy’ wedi gweithio i’r heddlu, ac felly byddwn yn bâr newydd o lygaid, ac mae peidio â chael cefndir yr heddlu yn gweddu’n well i ddidueddrwydd y rôl.

Pam ydych chi eisiau’r rôl?

Rwy’ wedi ymddeol ers peth amser, ac mae’n bryd imi roi rhywbeth yn ôl i’m cymuned. Rwy’ wedi gweld sut mae’r ardal hon wedi dioddef oherwydd diffyg presenoldeb yr heddlu, ac mae’n ymddangos, beth bynnag yw’r polisi presennol, nad ydy o yn gweithio. Mae’n amser am newid.