Mae’n newyddion “trychinebus” fod dros 100 o swyddi yn y fantol yn Rhondda Cynon Taf, wedi i ffatri fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, yn ôl yr Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli’r ardal.
Yn ôl undeb GMB, cafodd staff Everest, ffatri sy’n cynhyrchu ffenestri a drysau, wybod ddoe (dydd Llun, Ebrill 29) fod y cwmni wedi methu â dod o hyd i berchnogion newydd, medd BBC Cymru.
Mae’n debyg fod 96 o bobol yn cael eu cyflogi yn ffatri’r cwmni yn Nhreherbert, a saith arall mewn swyddfa yn Llantrisant.
“Mae hyn yn newyddion trychinebus i’r rhai sydd wedi’u heffeithio, yn enwedig gan fod hyn yn dod mor fuan ar ôl i gannoedd o swyddi gael eu colli yn yr un ardal yn dilyn cau UK Windows and Doors,” meddai Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru Canol De Cymru.
“Rwyf wedi cyflwyno cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r cwmni a hefyd pa gymorth fydd ar gael i’r rhai yr effeithir arnynt.
“Mae’n anodd dod o hyd i gyflogaeth amgen yn yr ardal, ac mae llawer o bobl yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd. Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau bod mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn cael eu creu, a sefydlu a oes unrhyw fusnesau eraill yn ei chael hi’n anodd ac mewn perygl o gau fel gellir cymryd camau i warchod swyddi eraill.”
‘Newyddion ofnadwy’
Cafodd y cwmni ei sefydlu bron I 60 mlynedd yn ôl, gyda safleoedd ledled gwledydd Prydain, cyn agor ffatri yn Nhreherbert yn 1972.
Dywed Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, ei fod yn “newyddion ofnadwy”.
“Mae [Everest] wedi bod yn nwylo gweinyddwyr ers yr wythnos ddiwethaf, a dw i’n deall mai’r unig gais yw un ar gyfer yr asedau yn hytrach na’i chadw i fynd,” meddai.
“Dw i wedi cynnig helpu mewn unrhyw ffordd bosib.”
Mae’n debyg fod y gweinyddwyr, ReSolve Advisory Limited, yn ceisio dod o hyd i brynwr ar gyfer Everest er mwyn achub hyd at 350 o swyddi yn eu ffatrïoedd ledled gwledydd Prydain.