Roedd gweithredu’n uniongyrchol yn “angenrheidiol”, yn ôl un o’r tri gafwyd yn euog o greu difrod i ffatri sy’n gwneud cydrannau ar gyfer arfau sy’n cael eu defnyddio gan Israel.
Cafodd Thomas Bell, Owain Parry a Mark Redfern ddirwy o fwy na £500 yr un am wneud difrod i ffatri Solvay – cwmni sydd bellach yn defnyddio’r enw Psytech – yn Wrecsam fis Tachwedd 2021.
Bu’r tri, oedd yn gweithredu mewn partneriaeth â Palestine Action, ar do’r ffatri am 14 awr, a bu’n rhaid i ryw 60 o weithwyr gael eu gyrru adref, a daeth y gwaith cynhyrchu i ben yno am gyfnod.
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Caernarfon, fe wnaeth Solvay gyfaddef eu bod nhw’n gwneud cydrannau ar gyfer awyrennau ymladd F-35, sy’n cael eu defnyddio gan fyddin Israel.
Roedd yr erlyniad yn honni bod y tri wedi achosi colled o £60,000 i Solvay, ond fe gawson nhw eu cyhuddo o ddifrod troseddol gwerth £20,000.
Penderfynodd y barnwr na fyddai’n addas i’r tri dalu’r costau i Solvay, yn sgil eu sefyllfa ariannol, a bod y cwmni’n werth biliynau o bunnoedd.
Yn hytrach, mae eu dirwyon wedi mynd i’r gwasanaethau brys.
‘Gweithredu uniongyrchol yn gweithio’
Yn 2021, roedd y tri diffynnydd yn rhan o gangen Wrecsam o’r Welsh Underground Network, a Palestine Action roddodd wybod iddyn nhw am weithredoedd ffatri Solvay yn y ddinas.
“Doedd gan yr un ohonom ni syniad, doedd gen i ddim syniad o gwbl bod pethau fel hyn yn digwydd yn ein tref ni,” meddai Thomas Bell wrth golwg360.
“Roeddwn i’n ymwybodol o’r gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina, ac roedd o’n rywbeth oedd yn fy nychryn, yn ei weld ar hyd y newyddion wrth dyfu i fyny.
“Wedyn ffeindio allan bod cydrannau ar gyfer dronau ac [awyrennau cwffio] F-35 yn cael eu gwneud yn fy nhref i, roeddwn i wedi dychryn.
“Doeddwn i ddim eisiau i fy nghartref fod yn rhan o ymosodiadau Israel.”
Erbyn hyn, mae’r achos yn fwy perthnasol fyth, gydag o leiaf 34,454 o Balesteiniaid wedi cael eu lladd yn sgil ymosodiadau Israel ar Gaza ers i Hamas ymosod ar y wlad ar Hydref 7.
“Os rhywbeth, mae [hyn sy’n digwydd nawr] yn dangos ein bod ni bendant wedi gwneud y peth iawn,” meddai Thomas Bell.
“Dw i’n meddwl bod protestiadau arferol a ralïau’n wych, maen nhw’n dda i godi ymwybyddiaeth at broblemau ac ati, ond fyddai sefyll tu allan gyda baneri ac arwyddion heb wneud dim byd oni bai am godi ymwybyddiaeth.
“Pan mae pobol yn cael eu lladd bob dydd, dydy o ddim yn ddigon.
“Roedden ni eisiau cau rhan o’r gadwyn gyflenwi ac atal y pethau hyn rhag cael eu cynhyrchu yn Wrecsam.
“Dw i’n meddwl bod pethau fel hyn bendant yn angenrheidiol, dyna’r ffordd rydyn ni’n dod â’n rhan yng nghyfundrefn Israel i ben – rydyn ni wedi gweld Palestine Action yn bod yn llwyddiannus efo bob math o weithredu uniongyrchol.
“Ym Manceinion, maen nhw wedi llwyddo i gau ffatri [arfau Elbit System] yn Oldham. Maen nhw wedi bod yn llwyddiannus yn dod â phartneriaethau busnesau gyda Elbit i ben.
“Mae o yn dangos bod o’n gweithio a’i fod o’n angenrheidiol.
“Os ydyn ni o ddifrif eisiau cefnogi Palesteina, yna drwy weithredu’n uniongyrchol mae gwneud hynny.”
‘Hapus gyda’r canlyniad’
Tra bod Owain Parry wedi pledio’n euog ar yr unfed awr ar ddeg, ac wedi cael dirwy o £534, fe wnaeth Thomas Bell a Mark Redfern barhau i bledio’n ddieuog.
Cafwyd nhw’n euog gan y rheithgor, a rhoddodd y barnwr ddirwy £15 yn fwy iddyn nhw.
“Yn amlwg, gaethon ni’n dyfarnu’n euog – ac roedden ni’n disgwyl hynny. Roedd yna ran ohonom ni’n breuddwydio am gerdded allan o’r llys yn ddieuog, ond breuddwyd oedd honno,” meddai Thomas Bell am yr achos.
“Dw i reit hapus gyda’r canlyniad, mae’n fuddugoliaeth i fi.
“Dros y chwe mis diwethaf ers i ni gael y cyhuddiadau, roedden ni’n mynd i fod yn hapus efo dedfryd o garchar wedi’i gohirio – dyna oedd y nod, a’r hyn oedd yn ein meddwl, y bydden ni’n gwthio am ddedfryd wedi’i gohirio.
“Yn amlwg, doedden ni ddim eisiau mynd i’r carchar, ond roedd o yng nghefn ein meddyliau drwy’r amser – roedden ni’n gwybod bod hynny’n bosib pan oedden ni ar y to ddwy flynedd a hanner yn ôl.
“Felly, cerdded allan gyda dyfarniad ein bod ni’n euog a dirwy? Roedden ni’n hapus gyda hynny.”