Mae dwy blaid wleidyddol yn Iwerddon dan y lach am “anwybyddu” siaradwyr Gwyddeleg yn y Gaeltacht, neu gadarnle’r iaith, ar ôl iddyn nhw ddosbarthu taflenni uniaith Saesneg.

Yn 2019, fe wnaeth Fianna Fáil a Fine Gael ymddiheuro am ddeunydd uniaith Saesneg, gan addo na fyddai’n digwydd eto.

Ond bum mlynedd yn ddiweddarach, mae taflenni uniaith wedi cael eu dosbarthu yn Connemara ar ran dau ymgeisydd Ewropeaidd Fine Gael, Maria Walsh a Nina Carberry.

Does dim Gwyddeleg ar daflenni Simon Harris, y Taoiseach sydd wedi ymrwymo’n ddiweddar i ddysgu’r iaith.

Ac roedd gan ymgeiswyr Fianna Fáil mewn un ardal daflenni uniaith Saesneg i gyd, ac eithrio ambell air o gyfarchiad.

‘Rhwystredig iawn’

Mae Conradh na Gaeilge yn dweud bod y sefyllfa’n “rhwystredig iawn”, ac nad yw wedi newid ers amser maith.

Maen nhw’n dweud y dylai pleidiau gwleidyddol fod yn gwasanaethu’r gymuned gyfan, ac nad ydyn nhw’n teimlo bod ganddyn nhw “ddyletswydd foesol” i wneud hynny.

Yn 2019, roedd adroddiadau bod cynlluniau ar y gweill i newid y gyfraith fel na fyddai taflenni uniaith Saesneg yn cael eu dosbarthu yn y Gaeltacht eto.

Bryd hynny, roedd galwadau am gyflwyno dyletswydd statudol i sicrhau deunydd dwyieithog ar gyfer etholiadau, ac roedd Fianna Fáil yn derbyn y ddadl, ond roedd pryderon y gallai’r broses gymryd yn rhy hir.

Mae Conradh na Gaeilge yn galw am adolygu’r sefyllfa o’r newydd, a dydy’r pleidiau gwleidyddol heb wneud sylw am y mater hyd yma.