Mae ymgyrchwyr Palestine Action wedi dringo ar ben to ffatri gemegion yn Wrecsam.

Daw hyn yn dilyn honiadau bod y cwmni Solvay Group yn darparu deunydd ar gyfer adeiladu dronau, sy’n cael eu defnyddio yn y rhyfel yn erbyn Palestiniaid.

Mae’n debyg fod gweithwyr y ffatri wedi gorfod rhoi’r gorau i’w gwaith ac ymgynnull tu allan i’r ffatri yn y cyfamser.

Roedd protestwyr hefyd wedi taflu paent coch ar waliau’r adeilad, fel symbol o waed, a chodi baneri Palesteina.

Datganiad

Yn eu datganiad wedi i’r ymgyrchwyr ymddangos ar do’r adeilad, dywedodd Palestine Action fod y safle’n “cynhyrchu deunydd a gludyddion” i UAV Tactical Systems, is-gwmni Elbit Systems, ar gyfer “adeiladu dronau milwrol”.

“Yn benodol, mae Solvay yn darparu ar gyfer y drôn Watchkeeper, sydd wedi ei ddatblygu a’i arbrofi ar Balestiniaid cyn cael ei ddefnyddio gan lywodraethau Gorllewinol yn erbyn pobol Affganistan ac Irac,” meddai’r grŵp.

“Mae Solvay hefyd yn gweithredu yn y Lan Orllewinol, gan wasanaethu ar gyfer aneddiadau anghyfreithlon Israel yno.”

Cefnogaeth

Mae Rhwydwaith Tanddaearol Cymru, sy’n fudiad sosialaidd a gweriniaethol, wedi cefnogi’r weithred ar Ystad Ddiwydiannol y dref.

“Mae Rhwydwaith Tanddaearol Cymru yn cymeradwyo ac yn cefnogi pawb sy’n cymryd rhan ym meddiannaeth y ffatri hon,” meddai’r mudiad mewn datganiad.

“Mae gweithrediadau fel hyn yn hanfodol i ddod â’r drefn aparteid ym Mhalesteina dan feddiant i ben.

“Rydym yn galw ar bob cymrawd i ddod ynghyd i gefnogi’r weithred hon ac ymchwilio i fusnesau eraill sy’n cefnogi y gyfundrefn Israel ac i weithredu.”

Presenoldeb yr heddlu

Roedd yr heddlu yn bresennol yn y digwyddiad, ond does dim cadarnhad o unrhyw drais ar y safle.

Rhoddodd Heddlu’r Gogledd ddatganiad ar un o’u tudalennau Facebook.

“Mae swyddogion yn parhau i fod ar leoliad aflonyddwch i fusnes ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam,” meddai.

“Cafodd galwad ei derbyn toc wedi 7 y bore yma (dydd Llun, Tachwedd 22) yn adrodd am grŵp o unigolion a oedd wedi cael eu gweld ar do adeilad.

“Mae’r sefyllfa hon yn parhau ac mae swyddogion yn ceisio siarad â’r unigolion dan sylw.”