Mae’r fferm solar gymunedol fwyaf o’i math ar fin cael ei chwblhau.
Daw hyn wrth i ddogfennau cynllunio ar gyfer Fferm Solar Bretton Hall – fydd yn ymestyn dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr – gael eu cwblhau.
Mae’r safle yn rhychwantu ffiniau gweinyddol Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Gorllewin Sir Caer a Chaer, ac felly’n croesi ffiniau dau awdurdod cynllunio.
Bydd Ynni Newydd yn cynnal ymgynghoriad gyda thrigolion a rhanddeiliaid lleol drwy sesiynau galw heibio yn Saltney a Brychdyn, yn agos at y safle a gafodd ei gynnig.
Yn ôl Ynni Newydd, bydd y fferm solar yn cynhyrchu 30MW o ynni, sy’n ddigon ar gyfer 8,400 o gartrefi, a bydd yn arwain at leihad o 6000 tunell o garbon deuocsid bob blwyddyn.
Bydd ymgynghoriadau ar gyfer y datblygiadau a gafodd eu cynnig yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Gymunedol Saltney ar Dachwedd 25 ac yn Wings Club Brychdyn ar ddydd Gwener, Tachwedd 26 rhwng 1yh a 7.30yh.
Bydd arddangosfa yn Llyfrgell Lache hefyd rhwng Tachwedd 25 a Rhagfyr 2, a bydd staff yn bresennol ar ddiwrnod y lansio ar y 25ain, rhwng 2yh a 7yh.
‘Cyffrous’
“Mae croeso i bawb i gwrdd â’r tîm, mae hwn yn gyfle arbennig iddyn nhw gwrdd â phobol leol a siarad am y fferm solar,” meddai Grant Peisley, Cyfarwyddwr Ynni Newydd.
“Cyn rhoi’r dogfennaeth gynllunio at ei gilydd, fe wnaethom ni gynnal ymgynghoriadau cynnar wnaeth ddangos bod yna dipyn o ddiddordeb yn y fferm solar.
“Oherwydd Covid, fodd bynnag, bu’n rhaid i ni gynnal rhain yn rhithiol, felly dyma’r tro cyntaf i ni fedru mynd i mewn i’r gymuned ac mae hynny’n gyffrous iawn.”
‘Ynni glân’
“Bydd y datblygiad a gynigiwyd yn darparu ynni glân, adnewyddadwy a fydd yn lleihau effeithiau newid hinsawdd ac yn darparu buddion i’r gymuned leol drwy berchnogaeth gymunedol,” meddai Ynni Newydd mewn datganiad.
“Byddwn yn codi’r arian i ddatblygu’r fferm solar a chynnig cyfranddaliadau y bydd pobol leol a sefydliadau’n gallu eu prynu os ydyn nhw eisiau dod yn rhan o’r gymdeithas.”