Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael ei gydnabod am eu gwaith wrth fynd i’r afael â cham-drin domestig, gan ennill statws achrededig Rhuban Gwyn y Deyrnas Unedig am yr eildro.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd bron i 2,880 o bobol yn Sir Gaerfyrddin eu bod yn dioddef cam-drin domestig.

Dywed y Cyngor y bydd adrannau’n parhau i weithio i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig ac yn cyfrannu at y gwaith o ddod â thrais gan ddynion yn erbyn menywod i ben.

Rhuban Gwyn

Mae ymgyrch y Rhuban Gwyn yn fenter fyd-eang sy’n annog pobol, yn enwedig dynion a bechgyn, i weithredu’n unigol ac ar y cyd, ac i newid yr ymddygiad a’r diwylliant sy’n arwain at gamdriniaeth a thrais.

I ddangos ymrwymiad y Cyngor, bydd Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin yn cael ei goleuo’n borffor ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn (Tachwedd 25).

Ar ben hynny, bydd baneri’r Rhuban Gwyn yn hedfan yn adeiladau’r Cyngor yn Llanelli a Rhydaman.

Bydd neges hefyd yn cael ei hargraffu ar slipiau cyflog y staff yn eu cyfeirio at ddulliau cymorth.

‘Cydnabyddiaeth’

“Rwy’n falch ein bod unwaith eto wedi llwyddo i gael achrediad yn sgil yr ymgyrch a’n bod yn cael cydnabyddiaeth am y gwaith rydym wedi’i wneud a hefyd yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol yn rhan o’n hymrwymiad i ddod â thrais yn y cartref i ben,” meddai’r Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Gymunedau a Materion Gwledig a chadeirydd y Bartneriaeth Cymunedau Mwy Diogel.”

“Mae’r ffigurau yn ystod y 12 mis diwethaf yn dal i fod yn rhy uchel, a’r rheiny sydd wedi codi llais a gofyn am gymorth.

“Ers y pandemig, mae cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau felly mae’n hanfodol ein bod yn gwneud beth bynnag y gallwn i annog pobl i beidio ag aros yn dawel ac i siarad ac i geisio cymorth.”