Mae cangen Abertawe y mudiad Stand Up To Racism wedi ysgrifennu llythyr agored at sinema fach annibynnol leol sy’n gwrthod gweithredu pasys Covid.

Yn ôl y grŵp, mae Cinema & Co. yn cael eu defnyddio gan grwpiau asgell dde eithafol, ac maen nhw’n galw ar y sinema i ymbellhau oddi wrth grwpiau megis Voice of Wales, “sy’n mabwysiadu Islamoffobia, gwrth-semitiaeth, a rhaniadau hiliol”.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Anna Redfern, perchennog Cinema & Co. wrth golwg360 fod y pasys yn “gwahaniaethu”, “yn anghyfreithlon”, ac yn “mynd yn groes i hawliau dynol”.

Ers hynny, mae’r sinema wedi cael gorchymyn gan yr awdurdod lleol i gau am 28 diwrnod, ond maen nhw wedi aros ar agor wedi hynny.

Yn sgil hyn, mae tudalen codi arian wedi denu degau o filoedd o bunnoedd i’r busnes, ac wedi cael ei rhannu gan y grŵp asgell dde Voices of Wales.

Mae Voice of Wales yn dweud bod grŵp Black Lives Matter Abertawe am gynnal protest a bod protest arall am gael ei chynnal “yn erbyn Ffasgaeth Asgell Chwith”, ond mae’r union sefyllfa’n aneglur ar hyn o bryd.

‘Hiliol a Ffasgaidd’

Yn eu llythyr at y sinema, mae cangen Abertawe Stand Up to Racism yn dweud eu bod nhw “am fynegi eu siom wrth weld bod y sinema yn cael ei defnyddio gan grwpiau asgell dde eithafol fel Voice of Wales”.

“Fel perfformwyr, hyrwyddwyr, crewyr, cefnogwyr, ac ymgyrchwyr, rydyn ni wedi gwerthfawrogi’r gofod cefnogol sy’n cael ei gynnig gan Cinema and Co, ac mae gennym ni nifer o atgofion hapus yno cyn Covid,” meddai.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod y 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd eithriadol ar Anna a’i thîm, ac yn deall y rhwystredigaeth y mae’n rhaid eich bod chi’n ei theimlo wrth i ni weld y ffordd amhriodol mae’r pandemig a’i effaith wedi cael ei drin gan Boris Johnson a’i griw yn Llywodraeth San Steffan.

“Wrth gwrs, fel ni i gyd, rydych chi’n awyddus i ddychwelyd at yr hyn rydych chi’n ei wneud orau – hyrwyddo perfformiadau byw.

“Beth bynnag yw ein barn am basbortau brechu wrth iddyn nhw gael eu cyflwyno yng Nghymru, rydyn ni’n bryderus iawn eich bod chi wedi gadael i’ch gwrthwynebiad iddyn nhw ganiatáu i chi gael eich defnyddio gan y dde eithafol.

“Mae nifer o’r rhai sy’n eich hyrwyddo chi ar y cyfryngau cymdeithasol yn hiliol a Ffasgaidd, yn anad dim Voice of Wales.

“Roedd y grŵp asgell dde eithafol hwn yn gysylltiedig ag aflonyddu ffoaduriaid yng Ngorllewin Cymru, cam-drin Chwaraewyr Tîm Pêl-droed Dinas Abertawe oedd yn penlinio, ac maen nhw wedi gweithio gyda phobol culfarn amlwg megis Katie Hopkins, a’r twyllwr Ffasgaidd a’r thug pêl-droed anfad, Tommy Robinson.

“Does dim rhyfedd bod Voice of Wales wedi cael eu cicio oddi ar YouTube am byth am eu Islamoffobia “annerbyniol” parhaus, a’u gweithgarwch gwrth-Semitaidd, fel y cafodd ei adrodd gan y BBC.

“Does gan y bobol hyn ddim diddordeb yn y diwylliant bywiog, amrywiol, a chreadigol rydyn ni wedi’i fwynhau gymaint yn Cinema and Co.

“Waeth beth rydyn ni’n ei feddwl am y Pasbortau Brechu, a’r ffordd orau ymlaen i Abertawe mewn byd wedi Covid, rydyn ni’n galw arnoch chi i bellhau eich hunain yn gyhoeddus oddi wrth grwpiau fel Voice of Wales sy’n mabwysiadu Islamoffobia, gwrth-semitiaeth, ac ymrannu hiliol yn agored.”

Ymateb y sinema

Mae’r sinema wedi cyhoeddi datganiad pellach ar eu cyfryngau cymdeithasol.

Maen nhw’n dweud bod Black Lives Matter wedi postio datganiadau a honiadau o hiliaeth yn erbyn staff y sinema, ond mae’r sinema yn dweud nad oes “unrhyw dystiolaeth” i gefnogi’r honiadau.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi mynd at yr heddlu yn sgil yr honiadau, yn dilyn “sylw a gafodd ei gamddehongli â bwriad da”.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n disgwyl i Black Lives Matter gynnal protest cyn diwedd y dydd, ond nad oes gan y sinema gysylltiad o gwbl â’r mudiad, ac mai dyma’r “math o ddigwyddiad sy’n hollti barn rydym ni eisiau ei osgoi”.

Maen nhw’n gofyn i gwsmeriaid gadw draw o’r sinema am y tro “fel rhagofal”, ac yn dweud nad oes ganddyn nhw “gysylltiad ag unrhyw blaid wleidyddol”, gan ategu eu safbwynt o ran pasys Covid.

Yn hytrach, maen nhw’n dweud eu bod nhw’n sefyll dros “ryddid i bawb” ac “yn erbyn gwahaniaethu o bob math”.

Maen nhw hefyd yn dweud nad ydyn nhw wedi ceisio’r arian sydd wedi’i godi drwy Crowdfunding.

Cinema & Co Abertawe

Sinema annibynnol yn anwybyddu gorchymyn i gau tros y pasys Covid-19

Roedd Cinema & Co yn mynnu na fydden nhw’n gofyn am gael gweld pasys cwsmeriaid cyn iddyn nhw gael mynediad i’r lleoliad

Sinema annibynnol yn Abertawe’n gwrthod gweithredu pasys Covid

Cadi Dafydd

“Mae’n gwahaniaethu, mae’n gwrthddweud ei hun, yn rhagrithiol, a does gan fusnesau annibynnol ddim yr adnoddau i gyflwyno’r fath raglen”