Mae sinema annibynnol yn Abertawe yn dweud na fyddan nhw’n gwirio pasys Covid cwsmeriaid.

Ers ddoe (dydd Llun, Tachwedd 15), mae’n rhaid dangos pàs Covid er mwyn cael mynediad i sinemâu, theatrau, a neuaddau cyngerdd, yn ogystal â chlybiau nos a digwyddiadau mawr.

Ond yn ôl Anna Redfern, perchennog Cinema & Co., mae’r pasys yn “gwahaniaethu”, “yn anghyfreithlon”, ac yn “mynd yn groes i hawliau dynol”, ac ni fydd y rhaglen yn cael ei gweithredu yn y sinema, sy’n cyflogi pump o staff.

Cyhoeddodd y penderfyniad ar Instagram, ac mae’r post wedi derbyn cannoedd o sylwadau.

Yn y neges at gwsmeriaid, mae’r cwmni’n dweud y byddan nhw’n “parchu eich hawl i breifatrwydd”, gan dynnu sylw at Erthygl 12 yn y Ddeddf Hawliau Dynol.

“Dydi hi ddim o’n busnes ni os ydych chi wedi cael eich brechu ai peidio. Mae hyn yn amherthnasol ac ni ddylai eich atal rhag eich hawl i gael mynediad at ddiwylliant,” meddai’r neges.

‘Gwahaniaethu’

Fe wnaeth y cwmni y penderfyniad “er mwyn sefyll yn erbyn y fath raglen”, meddai Anna Redfern wrth golwg360.

“Mae’n gwahaniaethu, mae’n gwrthddweud ei hun, yn rhagrithiol, a does gan fusnesau annibynnol ddim yr adnoddau, yn gyffredinol, i gyflwyno’r fath raglen,” meddai.

“Hefyd, mae’n agored i gael ei gamddefnyddio. Dw i’n gwybod am nifer o leoliadau eraill, a pherchnogion busnesau eraill jyst yn cael eu gweld fel eu bod nhw’n cadw at y rheolau a’r cyfyngiadau hyn gan eu bod nhw ofn colli eu bywoliaethau.

“Roeddwn i wir eisiau rhoi’r dewrder i bobol eraill sefyll yn erbyn hyn, a gobeithio y bydd yn cael effaith caseg eira.”

Y neges ar Instagram

Mae’r neges ar Instagram y cwmni hefyd yn nodi eu bod nhw am drin pob cwsmer yn hafal, “ac nid fel bio-beryglon”.

Dywed y cwmni y byddan nhw’n “parhau i gynnig lleoliad diogel a chroesawgar i’r holl gymuned ei fwynhau”, gan dynnu sylw at yr hawl i ymgynnull ac ymwneud yn heddychlon, yr hawl i ymlacio a gorffwys, a’r hawl i gymryd rhan, yn rhydd, ym mywyd diwylliannol y gymuned.

Gall lleoliadau nad ydyn nhw’n dilyn y rheolau dderbyn hysbysiad gwelliant neu gael eu gorfodi i gau, dirwy o hyd at £10,000 neu hysbysiad cosb benodedig.

Mae Anna Redfern yn dadlau ei bod hi’n “anghyfreithlon” i’r Llywodraeth orfodi’r rheolau hyn.

“Maen nhw’n trio dychryn busnesau bach i gyflwyno’r rhaglenni hyn, sydd yn gwahaniaethu, ac sydd yn erbyn ein hawliau dynol fel pobol,” meddai.

‘Cyfrifoldeb unigolion’

Ers cyhoeddi ar Instagram na fydd y sinema yn gwirio pasys Covid pobol, mae’r cwmni wedi derbyn beirniadaeth.

Ymysg rheiny, mae rhai’n dweud na fydden nhw’n teimlo’n ddiogel yn mynd yno, ac eraill yn dweud ei fod yn anghyfrifol.

“Ar ochr arall hynny, mae gwybod fod rhaid dangos y pasbort er mwyn cael yr hawl i gael mynediad at ddiwylliant yn rhoi pobol off beth bynnag,” meddai Anna Redfern wrth ymateb i’r feirniadaeth.

“Roedden ni wir yn cael trafferth cael arian cyn i’r rhaglen ddisynnwyr hon ddod i rym, ac rydyn ni’n ymddiried yn ein cwsmeriaid i gymryd cyfrifoldeb.

“Fel rhywun oedd yn arfer bod yn weithiwr hawliau plant, dw i’n gwbl ymwybodol o’n hawliau, a’r cyfrifoldeb sy’n dod gyda’r hawliau hynny.

“Rydyn ni eisiau i bobol allu gwneud y penderfyniadau hyn eu hunain, nid y Llywodraeth ddylai orfodi’r fath gyfyngiadau.

“Mae’n gyfrifoldeb arnom ni, ac felly ni’n hunain ddylai fod yn gwneud y penderfyniadau hyn drosom ni’n hunain.”

“Nid yw’n ddewisol”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae’r defnydd o Bàs Covid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yn ofynnol yn ôl y gyfraith yng Nghymru – nid yw’n ddewisol ar gyfer y lleoliadau hyn. Mater i awdurdodau lleol yw materion gorfodi.

“Mae achosion o coronafeirws yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel iawn.

“Mae Pàs Covid y GIG yn ffordd arall rydym yn cryfhau’r mesurau sydd gennym ar waith i’n cadw ni i gyd yn ddiogel.”

Dadlau dros y pasys

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 16) nad oes ganddyn nhw “gynlluniau brys” i ehangu pasys Covid i fwytai neu dafarndai.

Y bwriad gan Lywodraeth Cymru wrth ymestyn y defnydd o’r pasys Covid yw cryfhau’r mesurau sydd yn eu lle er mwyn ceisio rheoli lledaeniad Covid-19 a chadw busnesau ar agor.

Mae Big Brother Watch wedi dechrau her gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Cymru, gan ddweud bod y rhaglen yn “ddi-sail” ac “yn awdurdodol”.

Ers i’r trafodaethau ddechrau am y pasys Covid, mae cwestiynau wedi codi ynghylch rhyddid a hawliau.

Wrth drafod atal rhyddid sifil pobol mewn perthynas â’r pas Covid, dywedodd Mark Drakeford ar ddechrau’r trafodaethau bod gan y miloedd o bobol sydd wedi dal Covid-19 yn ddiweddar hawl ehangach i gael mesurau i’w cadw’n sâff hefyd, a bod y pàs Covid yn trio dod o hyd i gydbwysedd rhwng rhyddid sifil pobol a rhyddid ehangach y gymdeithas.

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, does dim tystiolaeth i ddangos bod pasys Covid-19 yn effeithiol.

Wrth ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ei bod hi’n “rhy gynnar i werthuso effeithlonrwydd y pas Covid”.

“Fodd bynnag, rydym wedi cael adborth cadarnhaol gan randdeiliaid a chan bobl sy’n defnyddio’r pàs gan ei fod wedi rhoi’r hyder iddynt fynychu lleoliadau a digwyddiadau, gan wybod bod pawb arall naill ai wedi’u brechu’n llawn neu wedi cael canlyniad prawf negyddol diweddar iawn.”

Er hynny, mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod yr angen i ddangos pàs Covid wedi arwain at fwy o bobol yn cael eu brechu.

Wrth edrych ar resymau pobol a oedd yn gyndyn o gymryd y brechlyn yn Lloegr, ond sydd bellach wedi’i gymryd, dywedodd 21% ohonyn nhw mai’r angen i ddangos pàs Covid ar gyfer mynd i glwb nos, digwyddiad mawr, neu unrhyw leoliad arall, oedd eu rheswm dros ei dderbyn.

“Dim cynlluniau brys” i ehangu pasys Covid i dafarndai neu fwytai, yn ôl Llywodraeth Cymru

Daw hyn yn dilyn sylwadau’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hadolygiad o’r cyfyngiadau ddydd Iau (Tachwedd 18)