Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud nad oes tystolaeth fod pasys Covid-19 yn effeithiol.

Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

“Mae’n rhy gynnar i werthuso effeithiolrwydd y pàs covid, gan mai dim ond ers llai na mis y mae’r system newydd wedi bod ar waith.

“Fodd bynnag, rydym wedi cael adborth cadarnhaol gan randdeiliaid a chan bobl sy’n defnyddio’r pás gan ei fod wedi rhoi’r hyder iddynt fynychu lleoliadau a digwyddiadau, gan wybod bod pawb arall naill ai wedi’u brechu’n llawn neu wedi cael canlyniad prawf negyddol diweddar iawn.”

Dim tystiolaeth gadarn

Ond mae Jane Dodds yn dweud bod ymateb y Gweinidog Iechyd yn brawf nad oes gan Lywodraeth Cymru dystiolaeth gadarn dros effeithiolrwydd y pasys.

“Yr hyn y mae’r ymateb gan y Gweinidog Iechyd yn ei ddangos heddiw yw nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw dystiolaeth empirig i ddangos bod cyflwyno pasys covid yn helpu i leihau nifer yr achosion,” meddai.

“Wrth gyflwyno deddfwriaeth sy’n cael effaith mor uniongyrchol ar hawliau sifil pobl, mae’n hanfodol bod y polisi’n cael ei gefnogi gan dystiolaeth gadarn.”

Bydd pasys Covid yn cael eu cyflwyno mewn sinemâu a theatrau yng Nghymru yn dilyn pleidlais yn y Senedd nos Fawrth (Tachwedd 9).

Fe bleidleisiodd 39 Aelod o’r Senedd o blaid, a dim ond 15 yn erbyn.

Gwnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr Cymreig bleidleisio yn erbyn y cynnig ond fe benderfynodd Plaid Cymru gefnogi’r llywodraeth.

“Mae ymateb y Gweinidog i’m cwestiwn heddiw hefyd yn dangos nad oes unrhyw dystiolaeth newydd wedi dod i’r amlwg nad oedd ar gael yn ystod y bleidlais gyntaf ar basys Covid, gan wneud tro pedol Plaid Cymru ar safbwynt y pasys yn fwy dryslyd byth.

Mae hefyd yn poeni nad yw’r Llywodraeth Cymru wedi amlinellu terfyn amser ar bryd fydd defnydd pasys Covid yn dod i ben.

Cyflwyno pasys Covid ar gyfer theatrau a sinemâu yng Nghymru

Fe bleidleisiodd 39 Aelod o’r Senedd o blaid a 15 yn erbyn wedi i Blaid Cymru addo cefnogi mesur Llywodraeth Cymru