Mae corff merch bymtheg oed wedi cael ei ddarganfod mewn coedwig yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog.

Daeth Heddlu Gogledd Cymru o hyd i’r corff ar ôl derbyn galwad am 8:24 fore heddiw (11 Tachwedd) yn adrodd am bryderon am ddiogelwch merch leol.

Nid yw amgylchiadau’r digwyddiad yn cael eu trin fel rhai amheus, ac mae’r crwner lleol wedi cael gwybod am y digwyddiad, meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Lee Boycott.

“Hoffwn estyn fy nghydymdeimladau dwysaf i’r teulu, a buaswn yn gofyn i’w preifatrwydd gael ei barchu yn y cyfnod anodd hwn,” meddai.