Mae yna bryder o ran nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg sy’n cael eu denu i’r proffesiwn.
Yn ôl Cefin Campbell, AoS Plaid Cymru, mae’r sefyllfa yn “argyfyngus”.
Mae targedau’r llywodraeth yn nodi bod angen cynyddu’r gyfran o blant sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg i 40% erbyn 2050, ynghyd â chynyddu’r nifer sy’n gallu siarad Cymraeg ar ôl bod mewn ysgol cyfrwng Saesneg/dwyieithog i 50%.
Er mwyn gwneud hynny, maen nhw wedi gosod targed i gynyddu’r nifer o athrawon sy’n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn dysgu’r iaith fel pwnc i 9,400 erbyn 2050.
“Argyfyngus”
Ac wrth siarad ar lawr y siambr ddydd Mercher (10 Tachwedd) fe ddywedodd yr aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy o ran creu mwy o athrawon Cymraeg eu hiaith os ydynt am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Tra ein bod ni’n cydnabod bod rhywfaint o gynnydd wedi bod ers cyfnod y pandemig o ran y nifer sy’n dewis hyfforddi fel athrawon, ar y cyfan mae’r sefyllfa o ran niferoedd yr athrawon Cymraeg yn parhau i fod yn un argyfyngus”
“[Y] cwestiwn amlwg i ofyn, wrth gwrs, yw beth yn benodol rŷch chi fel Llywodraeth yn bwriadu gwneud er mwyn denu siaradwyr dwyieithog i’r proffesiwn, neu i ddarparu hyfforddiant iaith ddigonol i siaradwyr di-Gymraeg er mwyn rhoi’r sgiliau a’r hyder iddyn nhw gyfrannu i’r sector addysg Gymraeg,” meddai.
“A gyda’r nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae’r prinder o dros 300 o athrawon cyfrwng Cymraeg yn y sector cynradd a 500 yn y sector uwchradd yn destun pryder mawr.
“A hyd y gwelaf i, does dim strategaeth yn ei lle.”
Wrth ymateb fe ddywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg bod “rhaid sicrhau ein bod ni’n cyrraedd ac yn mynd yn bellach na’r targedau sydd gyda ni ar hyn o bryd o ran recriwtio, a dŷn ni ddim eto wedi gwneud hynny.”
Sicrhau cynnydd
Ychwanegodd Jeremy Miles doedd yr “atebion ddim yn syml” i’r broblem gan addo bod yn rhaid “cydweithio â rhanddeiliaid” i sicrhau cynnydd yn y maes hwn.
“Felly, rydym ni ar fin cyhoeddi dogfen ddrafft i drafod gyda’n rhanddeiliaid ni.
Bydd y llywodraeth yn cydweithio â phartneriaid fel y Cyngor y Gweithlu Addysg, Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Comisiynydd, meddai.
“Mae mwy nag un ffordd o fynd i’r afael â hyn,” meddai’r Gweinidog.
“Ond rwy’n credu bod angen edrych ar y gweithlu ehangach hefyd.
“Rwyf wedi cael trafodaethau diweddar ynglŷn â’r prinder cynorthwywyr dosbarth sy’n gallu siarad Cymraeg, ac mae’n rhaid inni hefyd wneud cynnydd yn y maes hwnnw, a edrych ar y gweithlu cyfan, fel petai.”