Mae Cymru ymysg grŵp o lywodraethau sy’n lansio cynghrair yng Nglasgow brynhawn heddiw (11 Tachwedd) er mwyn atal cynhyrchiant olew a nwy yn raddol.

Mae’r grŵp Beyond Oil and Gas Alliance (BOGA) yn cael ei arwain gan Ddenmarc a Chosta Rica, ac maen nhw’n “benderfynol” o osod dyddiad ar gyfer stopio chwilio am, ac echdynnu, olew a nwy.

Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig na’r Alban yn rhan o’r cytundeb hwn, y cyntaf o’i fath mae’n debyg, ond mae hi’n cynnwys gwledydd fel Iwerddon a Ffrainc hefyd.

Yn ôl BOGA, mae’r aelodau am weld yr holl drwyddedau newydd ar gyfer cynhyrchu ac echdynnu nwy ac olew yn cael eu hatal, ac maen nhw am osod dyddiad er mwyn gwneud hynny.

Wrth drydar am lansiad y gynghrair, dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, fod hwn yn “adeg arwyddocaol yn COP26” a bod Cymru yn rhan ohono.

Trydarodd Liz Savile Roberts, AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd ei chefnogaeth:

“Balch iawn o weld Cymru fel aelod craidd o’r Gynghrair Newydd Tu Hwnt i Olew a Nwy,” meddai.

“Drwy weithio gyda’n gilydd gallwn roi terfyn ar ein dibyniaeth ar danwydd ffosil a dylanwadu ar eraill i wneud yr un peth er mwyn ceisio cadw at gynhesu 1.5 gradd.”

“Mae’r wyddoniaeth yn glir”

Fe wnaeth Gweinidog yr Amgylchedd ac Ynni Costa Rica, Andrea Meza, wahodd llywodraethau eraill i ymuno â’r cynllun newydd heddiw.

“Tanwyddau ffosil, o bell ffordd, sy’n cyfrannu fwyaf tuag at newid hinsawdd, yn gyfrifol am 75% o holl nwyon tŷ gwydr,” meddai Andrea Meza.

“Mae’r wyddoniaeth yn glir ei bod hi’n hanfodol cyfyngu ar eu cyflenwad a rhoi diwedd ar gynhyrchiant nwy ac olew.

“Bron ugain mlynedd yn ôl, fe wnaeth Costa Rica wneud y penderfyniad dewr o wahardd chwilio ac ecsbloetio olew a nwy.

“Nawr, ynghyd â Denmarc, rydyn ni’n galw ar lywodraethau eraill i ymuno â BOGA a symud oddi wrth olew a nwy.”

Mae Quebec, Sweden, Yr Ynys Las, Iwerddon, Ffrainc a Chymru yn aelodau llawn o’r gynghrair hefyd, bellach.

Yn ogystal, mae Califfornia, Portiwgal a Seland Newydd yn aelodau cyswllt, a’r Eidal yn ‘Ffrind i BOGA’.

Llywodraethau’r Alban a’r Deyrnas Unedig

Mae Nicola Sturgeon wedi awgrymu y gallai’r Alban ymuno â’r gynghrair hefyd, gan ddweud bod trafodaethau yn parhau oherwydd perthynas hir y wlad gydag echdynnu tanwydd ffosil.

Pwysleisiodd ei bod hi am i’r Alban stopio dibynnu ar danwyddau ffosil “cyn gynted â phosib”, ond ei bod hi ddim eisiau achosi problemau economaidd i weithwyr yn y sectorau nwy ac olew.

Er nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhan o’r gynghrair, dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth nad oes unrhyw genedl arall, sydd wedi bod yn gynhyrchwyr nwy ac olew sylweddol, wedi gwneud gymaint â’r Deyrnas Unedig er mwyn cefnogi dyfodol carbon isel y sector.

“Tra bod dibyniaeth y Deyrnas Unedig ar danwyddau ffosil yn parhau i ostwng, bydd yna lai o angen am olew a nwy dros y blynyddoedd sydd i ddod wrth i ni gynyddu ein capasiti ynni adnewyddadwy,” meddai’r llefarydd.

“Bydd y Deyrnas Unedig yn parhau i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol i gefnogi’r newid oddi wrth danwyddau ffosil tuag at ynni glân, fel ein bod ni’n gallu creu swyddi, adeiladu diwydiannau newydd, a gyrru twf economaidd.”

Mae Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a’r Alban wedi derbyn beirniadaeth am eu cynlluniau posib i ddatblygu maes olew a nwy Cambo ym Môr y Gogledd sydd, mae’n debyg, yn cynnwys hyd at 800 miliwn casgen o olew.

Wrth ymateb i’r Gynghrair Beyond Oil and Gas, dywedodd cynghorydd polisi hinsawdd Oxfam, Lyndsay Walsh, ei bod hi’n “siomedig” nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhan o’r grŵp.

“Efallai bod y Deyrnas Unedig wedi arwain y ffordd ar ymrwymo i allyriadau sero-net, ond mae’n rhaid iddyn nhw fynd i’r afael â’r anghysondeb anferth hwn sy’n cael ei achosi drwy barhau i roi trwyddedau olew a nwy ym Môr y Gogledd.”