Dydi rhoi cymorthdaliadau ac annog teithiau awyrennau domestig ddim yn cyd-fynd â’r her o fynd i’r afael â newid hinsawdd, meddai Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru.

Mae sylwadau Lee Waters, a gafodd eu gwneud yn y Senedd, yn golygu bod “ansicrwydd” am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru brynu Maes Awyr Caerdydd am £52m yn 2013.

Ers hynny, mae mwy na £130m o gefnogaeth wedi cael ei rhoi gan Lywodraeth Cymru i’r maes awyr, ar ffurf benthyciadau neu fuddsoddiadau.

Yn ôl Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, mae sylwadau Lee Waters “yn weddol syfrdanol” o ystyried faint o arian trethdalwyr sydd wedi cael ei roi i’r Maes Awyr ers 2013.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi gwerth bron i £2m o arian trethdalwyr mewn cymorthdaliadau i’r daith rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn 2017/18, ac ychydig dros filiwn yn y flwyddyn flaenorol.

‘Rhagrithiol’

Gofynnodd Natasha Asghar i Lee Waters yn y Senedd ddoe (dydd Iau, Tachwedd 10), a yw’n croesawu cyhoeddiad diweddar y Canghellor am haneru toll teithwyr awyr ar gyfer hediadau domestig.

“Dw i ddim yn meddwl bod rhoi cymorthdaliadau nag annog teithiau awyrennau domestig yn cyd-fynd â’r her o newid hinsawdd a ninnau â Phrif Weinidog sy’n trio hawlio arweinyddiaeth ryngwladol wych drosto; dw i’n meddwl eu bod nhw’n gwrthddweud ei gilydd,” meddai Lee Waters wrth ateb.

Dywedodd Natasha Asghar fod ei sylwadau “ychydig yn rhagrithiol”.

“Roedd sylwadau’r gweinidog yn weddol syfrdanol o ystyried faint o arian trethdalwyr mae Maes Awyr Caerdydd wedi’i dderbyn ers dod dan berchnogaeth gyhoeddus gan Lafur wyth mlynedd yn ôl,” meddai.

“Mae Llafur ychydig yn rhagrithiol yn dweud bod rhoi cymorthdaliadau i deithio awyr yn beth drwg, pan maen nhw wedi pwmpio cannoedd ar filoedd o arian trethdalwyr, ac yn parhau i wneud hynny, i’w prosiect methedig ofer.

“Os yw gweinidogion Llafur yn bwriadu stopio rhoi cymorthdaliadau i Faes Awyr oherwydd ei fod yn mynd yn groes i newid hinsawdd, yna mae’n codi rhai cwestiynau difrifol am ei ddyfodol.

“Does gen i ddim amheuaeth y gallai Maes Awyr Caerdydd ddod yn hwb trafnidiaeth ffyniannus ond ar ôl yr ymyriad diweddaraf hwn, mae ei ddyfodol yn y fantol.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth Lafur ddweud yn glir, ar frys, beth yw ei bwriadau hirdymor ar gyfer y safle o ystyried bod swyddi ac arian trethdalwyr yn gysylltiedig â’r maes awyr.”

“Cynnal gallu hedfan”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Roedd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd yn ymateb i gwestiwn uniongyrchol gan Aelod o’r Senedd ynglŷn â phenderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i haneru dyletswydd teithwyr awyr ar gyfer hediadau domestig – nid am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd.

“Rydym wedi ymrwymo i gynnal gallu hedfan yng Nghymru, oherwydd y buddion a ddaw yn ei sgil i economi Cymru gyfan, wrth gydnabod yr heriau y mae hyn yn eu creu ar gyfer cyrraedd ein targedau ar ddatgarboneiddio.”