Bu pobol ar draws Cymru yn cofio’r rhai fu farw yn y Rhyfel Mawr heddiw (dydd Iau, Tachwedd 11).
Mae Diwrnod y Cadoediad yn nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ar unfed awr ar ddeg unfed diwrnod ar ddeg unfed mis ar ddeg y flwyddyn.
Heb unrhyw gyfyngiadau eleni, bu pobol yn ymgynnull gerbron Senotaff ledled Cymru mewn dau funud o dawelwch i goffáu’r rhai a fu farw mewn gwrthdaro milwrol.
Fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford roi torch pabi ar drên oedd yn teithio o Gaerdydd i Lundain.
Mae digwyddiad ‘Poppies to Paddington’, sydd wedi ei drefnu gan Great Western Railway yn parhau eleni wedi iddo gael ei gynnal y llynedd am fod yn rhaid canslo gwasanaethau coffa oherwydd y pandemig.
Mae’r daith yn symbol o’r daith hir a wnaed gan filwyr ar eu ffordd i ryfel.
Pwysigrwydd y lluoedd arfog
Fe ddywedodd Mark Drakeford fod digwyddiadau fel hyn yn ein hatgoffa o bwysigrwydd y lluoedd arfog.
Soniodd am ei werthfawrogiad i’r fyddin am eu cyfraniad yn ystod y pandemig.
“Mae nifer o ddinasyddion wedi gweld hynny gyda phobol ifanc yn yr Awyrlu yn rhoi brechlynnau er enghraifft, yn ogystal â’r help gydag ambiwlansys.
“Mae hyn wedi atgoffa pobol am bwysigrwydd y lluoedd arfog o ddydd i ddydd yn ogystal â mewn amseroedd o wrthdaro.”
Bu mwy na 100 o bersonél milwrol yn helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fel gyrwyr o Hydref 14 tan ddiwedd mis Tachwedd.
Y Pabi
“Er, ar ddiwedd pob rhyfel, mae pobol yn dweud na ddylai hyn fyth digwydd eto, y gwir amdani yw bod gwrthdaro’n parhau i ddiwgydd ledled y byd,” meddai Mark Drakeford wedyn.
“Mae’r flwyddyn nesaf yn nodi 40 blynedd ers Rhyfel y Falklands, 30 ers Rhyfel y Gwlff, ac ugain mlynedd ers 9/11 eleni.
“Felly mae’r pabi yn mynd ymhellach na hynny. Nid yn unig pethau a ddigwyddodd anser maith yn ôl ond pethau sy’n digwydd yn ein bywydau ni heddiw.”
Ddydd Mawrth (Tachwedd 9), roedd dadl ar lawr y Senedd oedd yn cofio a chefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Wrth siarad yn y Senedd yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, ei bod yn diolch i bersonél y Lluoedd Arfog yn y gorffennol a’r presennol am eu dewrder, wrth i’r genedl gofio aberth yr holl bersonél ers yr Ail Ryfel Byd.