Fydd disgyblion un o ysgolion uwchradd Gwynedd ddim yn cael cinio ysgol os oes ganddyn nhw fwy na cheiniog o ddyled.

Cafodd y penderfyniad ei wneud oherwydd diffyg yng nghyllideb cinio Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, meddai pennaeth yr ysgol mewn llythyr at rieni.

Mae cogydd yr ysgol wedi derbyn cyfarwyddyd i beidio â rhoi bwyd i blant o Dachwedd 22, oni bai bod eu dyledion wedi cael eu clirio.

Bydd Cyngor Gwynedd yn trafod y mater yn uniongyrchol gyda’r ysgol, ond dydyn nhw ddim yn gweithredu un polisi cyffredin o wrthod cinio i ddisgyblion.

Mae’r llythyr, a gafodd ei yrru gan Bennaeth Strategol yr ysgol, Neil Foden, ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 11) wedi ennyn beirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Wrth rannu’r llythyr, dywedodd un rhiant, Darren Owen, nad bai’r plant yw’r ddyled, ac “efallai mai’r cinio ysgol fydd yr unig bryd y bydden nhw’n ei gael y diwrnod hwnnw”.

‘Rhaid gwneud rhywbeth’

Bydd pob dyled sy’n fwy na £10 yn cael ei throsglwyddo i Gyngor Gwynedd, a bydd y Cyngor yn anfonebu rhieni am y dyledion hynny.

Bydd pob rhiant sydd â dyledion o fwy na cheiniog yn derbyn llythyr gan yr ysgol yn gofyn iddyn nhw glirio’r ddyled a rhoi arian ar gyfrifon cinio ysgol y plant erbyn dydd Gwener nesaf (Tachwedd 19), meddai’r llythyr.

“Roeddwn i wedi fy syfrdanu ar ddiwedd y tymor diwethaf wrth weld diffyg annisgwyl yng nghyllideb ein cinio ysgol,” meddai Neil Foden yn y llythyr.

“Daeth i’r amlwg wrth edrych yn fanylach bod hyn oherwydd bod llond llaw o ddisgyblion gyda dyledion o dros £1,800 gyda’i gilydd.

“Mae’r Cogydd wedi cael cyfarwyddyd i beidio rhoi bwyd i unrhyw blentyn o 22 Tachwedd ymlaen os nad yw’r ddyled wedi cael ei chlirio, neu, yn y dyfodol, i blant sydd heb ddigon o arian yn eu cyfrifon i dalu am ginio.

“Dw i’n sori ein bod ni wedi gorfod cymryd y camau hyn, ond mae graddfa’r diffyg yn dangos yn amlwg bod rhaid gwneud rhywbeth.”

“Deall a chydymdeimlo”

Wrth ymateb i’r feirniadaeth, dywed Neil Foden eu bod nhw’n deall bod llawer o deuluoedd wedi profi anawsterau ariannol yn ystod y pandemig, ond y bydd rhaid i’r ysgol dalu am unrhyw ddiffygion yn y gyllideb.

“Mae prydau ysgol yn cael eu darparu gan Gyngor Gwynedd trwy gytundeb lefel gwasanaeth gyda’r ysgol. Rhaid i unrhyw golledion neu ddiffygion fod yn rhan o gyllideb yr ysgol,” meddai.

“Fe wnaethon ni gysylltu â’r Cyngor i fynegi pryder bod dyled cronnus o dros £1,800 wedi cael ei chodi gan ryw 70 o ddisgyblion.

“Roedd gan naw rhiant ddyled o dros £50, ac roedd gan dri ohonynt dros £100.

“Cafodd y rhieni oedd mewn dyled eu tecstio yn wythnosol ac yn y pen draw, anfonwyd llythyrau ond, yn y rhan fwyaf o achosion, ni chafwyd ymateb ac mewn sawl un, cynyddodd y dyledion.

“Cafodd y dull a gymerwyd ei argymell gan y Cyngor ond mae’n un rwy’n ei gefnogi. Mae geiriad y llythyr yn adlewyrchu’r dull y gwnaethom gytuno arno. Mae rhai cydweithwyr sydd â phlant mewn ysgolion eraill yn dweud wrthyf fod eu hysgolion yn gweithredu polisi tebyg.

“Mae disgyblion o’r teuluoedd mwyaf difreintiedig yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac maen nhw’n cael eu credydu’n awtomatig gyda lwfans dyddiol.

“Dylai unrhyw riant sydd mewn anhawster ariannol gwirioneddol ysgrifennu at Bennaeth Blwyddyn eu plentyn er mwyn i ni weld sut orau i gynorthwyo.

“Rydym yn deall bod llawer o deuluoedd wedi profi anhawster ariannol yn ystod y pandemig ac rydym yn cydymdeimlo. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i’r ysgol dalu am unrhyw ddiffyg yn y gyllideb ar gyfer prydau ysgol a allai olygu llai o lyfrau ac adnoddau i’r holl ddisgyblion oherwydd dyledion gan leiafrif.”

Trafod â’r ysgol

Wrth ymateb, dywed Cyngor Gwynedd eu bod nhw’n annog unrhyw rieni neu warcheidwaid sy’n cael anhawster talu am ginio ysgol i gysylltu ag Adran Addysg y Cyngor neu i gysylltu â’r ysgol.

“Mae’n bosib y bydd gan eu plentyn hawl i ginio ysgol am ddim,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

“Mae system talu ar-lein wedi ei gyflwyno sy’n gofyn i rieni sicrhau bod digon o arian ar gael i dalu am brydau ysgol eu plentyn.

“Mae’r system yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd i rieni na allant, am ba reswm bynnag, dalu am gyfnod byr. Anfonir negeseuon atgoffa yn ôl yr angen i sicrhau nad oes unrhyw ddyledion sylweddol yn cronni.

“Fel Cyngor, nid ydym yn gweithredu polisi cyffredinol o wrthod cinio i ddisgyblion, a byddwn yn trafod y mater hwn yn uniongyrchol gyda’r ysgol.”