Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Peirianneg ar Gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl.
Bydd y gwaith nawr yn dechrau ar y ganolfan gwerth £11.2m sydd â’r bwriad o roi hwb i addysg a hyfforddiant o safon fyd eang ar gyfer y sector peirianneg.
Mae’r Ganolfan Ragoriaeth ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl yn rhan o strategaeth ehangach gwerth £90m ar draws y Grŵp i foderneiddio cyfleusterau addysg a hyfforddi, ac mae sefydlu Canolfannau Rhagoriaeth wrth graidd y strategaeth honno.
Bydd Sefydliad Technoleg Ynni Adnewyddadwy hefyd yn rhan o’r datblygiad newydd fel sector y mae disgwyl iddo dyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf.
‘Datblygu’r genhedlaeth nesaf’
Mae’r datblygiad eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan y cwmni rhyngwladol RWE, y prif gynhyrchydd ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
“Mae RWE wedi bod yn arloesol gyda thwf gwynt alltraeth yng ngogledd Cymru, ac wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r coleg am nifer o flynyddoedd gan sefydlu, yn fwyaf nodedig, ein rhaglen brentisiaeth a’r hwb hyfforddi,” meddai Tom Glover, cadeirydd gwlad RWE UK.
“Felly’n naturiol rydym yn hynod falch o weld y coleg yn datblygu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Peirianneg gyda ffocws penodol i’r dyfodol ar ynni adnewyddadwy.
“Bydd hynny’n helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr gyda’r sgiliau priodol i yrru’r diwydiant yn y dyfodol.”
‘Gweledigaeth’
Dywed Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo, fod y coleg “yn falch iawn fod Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi caniatâd i ni ddod â’r adnodd pwysig hwn ym maes peirianneg i’n Campws yn Y Rhyl”.
“Bydd y datblygiad hwn yn rhoi cyfle i unigolion yn y rhanbarth ddysgu a hyfforddi gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, a hynny mewn amgylchedd modern a phwrpasol,” meddai.
“Bydd hyn yn eu rhoi mewn sefyllfa gref i ddilyn gyrfaoedd mewn diwydiannau megis cynhyrchu ynni a gweithgynhyrchu.
“Fy ngweledigaeth ar gyfer y ganolfan hon yw y bydd yn gweithredu mewn partneriaeth â’r diwydiant gan sicrhau fod gan bobol y sgiliau angenrheidiol i gefnogi twf economaidd ac arloesedd o fewn y sector yma yng ngogledd Cymru.”