Mae FW de Klerk, arweinydd olaf De Affrica yn y cyfnod aparteid, wedi marw’n 85 oed yn dilyn salwch.

Fe oedd yr arweinydd olaf cyn i Nelson Mandela ddod i rym, ac fe enillodd y ddau Wobr Heddwch Nobel ar y cyd.

Roedd yn ffigwr dadleuol yn Ne Affrica, gyda nifer yn ei feio am y trais yn erbyn pobol dduon y wlad ac ymgyrchwyr gwrth-aparteid, tra bod pobol â chroen gwyn yn ei ystyried yn fradwr wrth ddirwyn y cyfnod aparteid i ben.

Cyhoeddodd FW de Klerk ar Chwefror 2, 1990 fod Nelson Mandela am adael y carchar ar ôl 27 mlynedd.

Yn ystod yr araith, fe gyhoeddodd e derfyn ar y gwaharddiad ar blaid yr ANC a grwpiau gwleidyddol eraill oedd yn gwrthwynebu aparteid.

Naw diwrnod yn ddiweddarach, roedd Nelson Mandela yn rhydd, bedair blynedd cyn cael ei ethol yn arlywydd du cynta’r wlad wrth i bobol ddu gael pleidleisio am y tro cyntaf.

Enillodd FW de Klerk a Nelson Mandela Wobr Heddwch Nobel yn 1993 am gydweithio i ddileu hiliaeth a chyflwyno democratiaeth yn Ne Affrica.