Mae adroddiad gan Estyn yn dweud bod y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru yn methu o ran addysg hanes Cymru a hanes BAME Cymru.

Datgelodd y corff sy’n gyfrifol am arolygu addysg a hyfforddiant Cymru nad oedd addysg ddigonol am hanes Cymru gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobol Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig mewn ysgolion.

“Mewn mwyafrif o ysgolion, nid oes gan ddisgyblion fawr o wybodaeth am y digwyddiadau hanesyddol sydd wedi llunio eu hardal leol ac sy’n gallu enwi ychydig o Gymry arwyddocaol o hanes,” meddai’r adroddiad.

Wrth siarad yn y Senedd, cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles at yr adroddiad, gan ddweud ei fod yn “ystyried sut rydym yn ymateb” iddo.

“Ond un o’r pethau sy’n glir o adroddiad Estyn yw pa mor bwysig yw hi i’n pobol ifanc gael dealltwriaeth glir o hanes Cymru, gan gynnwys yr agweddau amrywiol niferus ac amrywiol ohono, gan gynnwys rôl Cymru yn y fasnach gaethweision a’r terfysgoedd hiliol,” meddai.

Poeni

Er i Lywodraeth Cymru addo mynd i’r afael â’r diffyg addysg BAME yng Nghymru, mae rhai yn amau y byddan nhw’n gwneud hynny.

Dywed Martin Johnes, sy’n ddarlithydd Hanes Cymru, chwaraeon, gwleidyddiaeth a diwylliant poblogaidd ym Mhrifysgol Abertawe, ei fod yn poeni am gysondeb yr addysg ar draws ysgolion.

“Bydd y cwricwlwm newydd yn cynyddu addysgu hanesion Cymru ond bydd yr hyn/sut mae disgyblion yn dysgu yn parhau i amrywio,” meddai ar Twitter.

“Yn wir, yr amrywiaeth hon yw union bwrpas y cwricwlwm newydd. Nid yw hynny o reidrwydd yn beth drwg ond bydd yn golygu anghydraddoldebau o ran gwybodaeth a phrofiad.”

Roedd Jeremy Miles yn ateb cwestiwn gan ei gyd-Aelod Llafur o’r Senedd, Jayne Bryant, a ddywedodd “na ellir anwybyddu digwyddiadau mawr a sylweddol dim ond am eu bod yn anghyfforddus neu’n anodd” a bod “terfysgoedd hil de Cymru 1919 wedi cael eu hanghofio i raddau helaeth”.

“Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod adegau arwyddocaol yn ein hanes fel terfysgoedd ras de Cymru yn cael eu cynnwys wrth addysgu hanes pobol dduon yng Nghymru?” gofynnodd.

Atebodd yr Ysgrifennydd Addysg gan ddweud y byddai’r Llywodaeth yn eu hannog i ysgogi sgwrs genedlaethol ar ddechrau’r flwyddyn nesaf gan edrych ar ddatblygu adnoddau ar hanes Cymru a hanes lleol.

Hanes Cymru a’r byd

Noda Estyn fod disgyblion Cymru yn methu â gwneud cyswllt rhwng unigolion a digwyddiadau yn hanes Cymru a hanes Prydain a hanes ledled y byd.

Doedd dim y gallu gan ddisgyblion i ddatblygu dealltwriaeth o sut roedd digwyddiadau allweddol yn effeithio ar ddigwyddiadau lleol, cenedlaethol, a rhyngwladol, meddai.

“O ganlyniad, nid ydynt yn datblygu dealltwriaeth gysyniadol flaengar a chydlynol o hanes Cymru,” meddai’r adroddiad.

“Mae hyn yn aml oherwydd nad yw cyfleoedd i astudio hanes lleol a chenedlaethol wedi’u cynllunio’n strategol.”

“Felly, rwy’n credu bod angen i’r amrywiaeth fod, mewn gwirionedd, yn amrywiol—mae angen iddo adlewyrchu’r holl brofiad mewn hanes ond hefyd yn y Gymru fodern sydd ohoni,” meddai Jeremy Miles.

“Ac rwy’n hyderus, wrth ddysgu’r gwersi y mae’r Athro Charlotte Williams a’i grŵp wedi ein helpu gyda nhw, a’r gwaith y mae Estyn yn ein helpu â fe, y byddwn yn gallu darparu’r cwricwlwm cyfoethog hwnnw sy’n sicrhau bod ein holl blant ym mhob rhan o Gymru yn deall amrywiaeth lawn hanes Cymru a’r Gymru fodern.”