Mae’r Llywodraeth Cymru yn benderfynol o “newid y naratif” ynghylch troseddau sbeicio yn erbyn menywod.

Mewn datganiad i’r Senedd ynghylch sbeicio brynhawn ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 10), amlinellodd Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, ei bod hi am newid y ffocws fel ei fod ar y troseddwyr a’r unigolion sy’n cyflawni’r troseddau.

Yn ddiweddar, mae adroddiadau am ymosodiadau sbeicio ar fenywod ifanc ar nosweithiau allan wedi sbarduno ymgyrchoedd i fynd i’r afael â’r mater.

Fe ddywedodd Jane Hutt nad oes unrhyw gyfrifoldeb na disgwyliad ar fenywod i newid eu hymddygiad.

Yn hytrach “y rhai sy’n cam-drin ddylai newid eu hymddygiad eu hunain”, meddai.

“Nid cyfrifoldeb menywod yw’r troseddau hyn. Mae’r cyfrifoldeb i gyd ar ysgwyddau’r dynion sy’n eu cyflawni,” meddai wedyn.

“Yn ail, i’r rhai sy’n adnabod y troseddwyr. Os ydych chi’n adnabod neu’n gweld person sy’n cyflawni’r troseddau hyn mae dyletswydd foesol arnoch chi i hysbysu’r awdurdodau cyn gynted ag y bo’n ddiogel gwneud hynny.

“Mae hyn yn cynnwys grymuso dynion i drafod gyda dynion a bechgyn eraill i herio ymddygiad rhywiaethol a cham-drin ymysg eu ffrindiau, eu cydweithwyr a chymunedau i hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a pharch.”

Cafodd y ddadl ei threfnu gan y Ceidwadwyr Cymreig oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i “weithredu ar frys”.

Maen nhw am weld y Llywodraeth yn cydweithio â’r sector clybiau nos a thafarndai i ddiogelu pobol, yn benodol merched ifanc, sy’n dueddol o gael eu targedu.

Siarad o brofiad

Hefyd, yn ystod y ddadl, rannodd Joyce Watson o’r Blaid Lafur gyda’r Senedd ei phrofiad hithau o fynd yn sâl yn sydyn yn nhafarn ffrind yn agos i’w chartref yn 1982.

“Mae’n brofiad brawychus iawn ac mae’n un sy’n aros gyda chi am oes,” meddai.

“Dyw gollwng diodydd ddim yn newydd.

“Roeddwn i’n byw mewn pentref bychan yng Nghymru.

“Doeddwn i ddim mewn clwb nos. Doedd dim blas arno, a doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd.

“Ond ro’n i’n lwcus achos roedd gen i ffrindiau o’m cwmpas ac roedden nhw’n gwybod fod rhywbeth o’i le, ac fe wnaethon nhw yn siŵr fy mod i’n cyrraedd adref.”

Gwnaeth Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, leisio ei phryderon hefyd gan ddweud bod y sefyllfa “yn llythrennol yn fy nghadw i’n effro yn y nos, oherwydd mae gen i ferch 19 oed”.

“Mae’n dweud wrthyf, bob tro y bydd yn mynd allan i far neu glwb neu i barti tŷ myfyriwr arall, ei bod yn ymwybodol, yn anffodus, fod yn rhaid iddi geisio amddiffyn ei hun a’i ffrindiau rhag cael eu sbeicio neu drwy gael eu chwistrellu, pethau a allai arwain yn y pen draw at drais rhywiol,” meddai.

“Rwy’n aros yn effro am y neges destun honno i ddweud ei bod hi adref yn ddiogel.

Strategaeth

Ychwanegodd Jane Hutt fod Llywodraeth Cymru yn cryfhau eu strategaeth Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol “i gynnwys ffocws ar drais ac aflonyddu yn erbyn menywod ar y stryd a’r gweithle”.

“Trwy gydweithio fel cymuned, a sicrhau ein bod yn atal troseddwyr rhag cyflawni’r gweithredoedd ofnadwy hyn, gallwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau mai Cymru yw’r man mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod,” meddai.

Y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i “weithredu ar frys” ar achosion sbeicio

Bydd dadl yn y Senedd heddiw (Tachwedd 10) yn galw ar Lywodraeth Cymru i “weithredu ar frys”.

Sbeicio merched: Yr argyfwng annelwig newydd

Jacob Morris

Sbeicio yn “sinistr iawn, iawn… [rydym] ni’n gwybod fod yna fwriad i wneud niwed, i dreisio”