Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am fesurau llymach er mwyn mynd i’r afael â sbeicio diodydd.

Bydd dadl yn y Senedd heddiw (Tachwedd 10) yn galw ar Lywodraeth Cymru i “weithredu ar frys”.

Maen nhw am weld y Llywodraeth yn cydweithio â’r sector clybiau nos a thafarndai i ddiogelu pobl, yn benodol merched ifanc, sy’n dueddol o gael eu targedu.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig mae angen hyfforddiant ar staff ar sut i ymateb ac ehangu camerâu cylch cyfyng, gorchuddion diodydd am ddim  a chwiliadau mwy trylwyr wrth i bobl fynd mewn i glybiau nos.

Mae sbeicio diodydd wedi dod yn fwy amlwg yn ddiweddar wedi adroddiadau bod yna ddulliau mwy dirgel o sbeicio erbyn hyn, sef drwy bigiad sydyn drwy’r croen.

Gwelwyd cyfres o foicotiau clwb yng Nghymru yn ddiweddar gyda menywod yn cadw draw o leoliadau i godi ymwybyddiaeth o’r broblem.

‘Angen cydweithio â rhanddeiliaid’

Yn ôl Tom Giffard, Gweinidog Diwylliant Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig mae yna achosion “ofnadwy a brawychus wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar”.

Mae’n mynnu bod angen i Lywodraeth Cymru “ddefnyddio eu pwerau datganoledig i rwystro’r cynnydd mewn sbeicio” gan “gamu i’r adwy a chydweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau diogelwch y sawl sy’n mynd allan gyda’r nos.”

“Dydyn ni heb gael y ddadl eto hyd yn oed ac mae gweinidogion Llafur eisoes yn ceisio osgoi gweithredu’n gadarn drwy addasu ein cynnig i wanhau’r mesurau penodol dylen nhw eu cymryd.”

Fis diwethaf fe ddywedodd Heddlu’r De ei bod wedi gweld cynnydd diweddar a’u bod yn ymchwilio i’r adroddiadau hyn.

Ac yn ôl Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, mae swyddogion wedi delio gyda bron i 200 o achosion o sbeicio yn y ddau fis diwethaf.

Eisoes mae clybiau nos wedi ymateb i’r sylw diweddar yn y wasg, gydag un o glybiau mwyaf eiconig y brifddinas, Clwb Ifor Bach, yn addo cymryd camau pellach.

Mewn datganiad fe ddywedodd y clwb bod ei staff yn mynd i dderbyn hyfforddiant pellach i ganfod unrhyw weithgarwch amheus. Ac os bydd rhywun yn cael eu dal, mi fyddant yn cyfeirio’r achos at yr heddlu yn ogystal â gosod gwaharddiad oes.

Tri Chynnig

Yn ystod y ddadl sydd wedi ei threfnu gan y Ceidwadwyr Cymraeg, fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnig bod y llywodraeth yn cyflwyno tri cham i fynd i’r afael â’r mater:

  1. Cyflwyno stribedi prawf cyffuriau a fydd ar gael am ddim ym mhob bar a chlwb nos, gyda chefnogaeth cyllid gan Lywodraeth os oes angen.
  2. Mwy o fynediad at hyfforddiant ar yfed a sbeicio ar gyfer holl staff y bariau, gwasanaethau diogelwch a’r heddlu.
  3. Cosbau llymach i’r rhai a geir yn euog o sbeicio.

Fe ychwanegodd Jane Dodds ni ddylai “menywod newid eu hymddygiad i deimlo’n ddiogel wrth fwynhau noson allan.”

“Yn anffodus, nid yw hwn yn fater newydd, yn hytrach mae’n fater sydd wedi’i sgubo i’r neilltu am lawer rhy hir ac sy’n dod i’r amlwg o’r diwedd,” meddai.

Mae hefyd yn galw am fwy o fenywod i fod o amgylch y bwrdd ar lefel cyngor lleol, sir a Seneddol wrth wneud penderfyniadau dros faterion fel hyn sy’n effeithio’n benodol ar ferched.

Mae Golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.

Sbeicio merched: Yr argyfwng annelwig newydd

Jacob Morris

Sbeicio yn “sinistr iawn, iawn… [rydym] ni’n gwybod fod yna fwriad i wneud niwed, i dreisio”