Mae profiadau menywod blaengar ym myd gwleidyddol Cymru wedi cael eu cofnodi a’u gwarchod mewn archif genedlaethol.
Mae lleisiau a phapurau Aelodau a chyn-Aelodau benywaidd y Senedd wedi’u cofnodi yn archif Gwir Gofnod o Gyfnod, sef prosiect gan Archif Menywod Cymru.
Yn 2003 Senedd Cymru, neu’r Cynulliad ar y pryd, oedd y corff deddfwriaethol cyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb, gyda hanner yr aelodau’n fenywod.
Er hynny, cyn y prosiect hwn, prin oedd y gwleidyddion benywaidd oedd wedi archifo eu dogfennau, ffotograffau, a phapurau, o gymharu â gwleidyddion gwrywaidd.
Nod y prosiect hwn yw gwneud iawn am hynny, a gwarchod etifeddiaeth cyfraniad menywod yn y cyfnod ers sefydlu datganoli.
Gwella bywydau merched
Wrth siarad yn ei recordiad ar gyfer yr archif, dywedodd Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon ers 2016, bod ymchwil yn dangos bod pynciau fel gofal plant a rhannu swyddi yn cael mwy o sylw mewn sefydliad lle mae mwy o gydraddoldeb o ran y gynrychiolaeth.
“Mae ymchwil wedi’i wneud sy’n dangos bod yn y Cynulliad Cenedlaethol [Senedd Cymru bellach] pynciau fel gofal plant a rhannu swydd yn cael mwy o sylw fan hyn nag mewn sefydliadau lle does gennych chi ddim y cydraddoldeb yma,” meddai Siân Gwenllian.
“Mae cael mwy o ferched yn golygu bod bywydau pob merch yn mynd i fod yn well, oherwydd rydyn ni’n tynnu sylw at y pethau pwysig yn ein bywydau.”
“Torri tir newydd”
Wrth ddathlu penllanw’r prosiect dwy flynedd yn y Senedd ddoe (9 Tachwedd), dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones AoS, sydd wedi cynrychioli Ceredigion ers yr etholiad cyntaf yn 1999, ei bod hi’n “hanfodol” gwarchod cyfraniad menywod i wleidyddiaeth Cymru, “fel bod gennym gofnod o’r rôl hanfodol y mae’r menywod hynny yn ei chwarae”.
“Roedd gan y Senedd genedlaethol nifer mor sylweddol o fenywod o’r dechrau, fe’i galluogodd i dorri tir newydd,” meddai Elin Jones, a fu’n hyrwyddo gwaith yr archif o’r cychwyn.
“Cafodd effaith wirioneddol ar y ffordd yr esblygodd y Senedd a’r ffordd y gwnaethom wleidyddiaeth.
“Mae gan yr archif gyfraniad pwysig i’w wneud wrth gofnodi’r stori gyfan a sicrhau bod llais menywod yn cael ei glywed pan fydd cenedlaethau’r dyfodol yn edrych yn ôl ar stori democratiaeth Cymru.”
“Diogelu ar gyfer y dyfodol”
Yn ôl Catrin Stevens, cyn-Gadeirydd Archif Menywod Cymru a chydlynydd y prosiect, mae’r Archif wedi bod yn pryderu ers tro bod menywod mewn gwleidyddiaeth yn amharod i adneuo eu papurau gwleidyddol pwysig i archifau cenedlaethol a lleol, tra bod dynion yn rhagweithiol yn cynhyrchu cofiannau.
“Mae’r prosiect hwn wedi llwyddo i wyrdroi hyn a sicrhau y bydd cyfraniadau enfawr menywod yn ystod blynyddoedd cyntaf Datganoli yn cael eu diogelu yn eu papurau a’u lleisiau ar gyfer y dyfodol,” meddai.
“Bu’n fraint, yn anrhydedd ac rwy wedi fy ysbrydoli wrth wneud hynny.”
Mae’r archif hefyd yn cynnwys straeon pedair menyw ifanc a oedd ymhlith Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru wedi’r etholiad cyntaf: Eleri Griffiths (Cwm Cynon), Arianwen Fox-James (Powys), Talulah Thomas (De Clwyd), ac Alys Hall (Rhondda).
Cafodd dros hanner cant o gyfweliadau eu rrecordio ar gyfer y casgliad, llawer ohonyn nhw yn gydag aelodau a oedd yn flaenllaw yn y frwydr dros sicrhau datganoli a chydraddoldeb ar ddiwedd y 90au.
Bydd y casgliadau llafar a dogfennol yn cael eu cadw yn Archif Sgrîn a Sain Genedlaethol Cymru ac Archif Wleidyddol Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn ogystal ag mewn archifau perthnasol eraill ledled y wlad.