Mae marwolaeth perchennog cartref gofal yn tanlinellu’r angen am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru, yn ôl AoS Ceidwadol.
Gwnaeth Vernon Hough, cyn-berchennog Gwastad Hall yn Sir y Fflint ladd ei hun ar ôl i 12 o’i breswylwyr farw yn ystod misoedd cyntaf y pandemig.
Mae ei weddw, Lousie Hough, yn credu bod y straen o weld y preswylwyr yn dioddef wedi arwain yn uniongyrchol at ei farwolaeth.
Er nad oedd yna unrhyw brawf fod Mr Hough yn dioddef gyda Covid ei hun, mae ei weddw o’r farn ei fod wedi marw oherwydd Covid.
“Roedd ei gŵr yn ddioddefwr o Covid ac mae hi nawr am weld Llywodraeth Cymru yn cael eu dwyn i gyfrif a’i bod am gael atebion,” meddai’r AoS Ceidwadol, Mark Isherwood.
Sector gofal
Wrth siarad yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mawrth (Tachwedd 9) fe ofynnodd Mark Isherwood, AoS dros Ogledd Cymru sut oedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r sector gofal yn ystod y pandemig gan gyfeirio at farwolaeth Mr Hough.
“Ar 28 Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai profion Covid cyn cael eu hymestyn i holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal yn Lloegr,” meddai
“Nid oedd hynny’n wir yng Nghymru, Brif Weinidog, gyda chi’n dweud na welsoch ‘unrhyw werth’ wrth ddarparu profion i bawb mewn cartrefi gofal ar y pryd.
“Roedd hynny’n foment allweddol i Mr a Mrs Hough, oedd yn rhedeg cartref nyrsio Gwastad Hall yng Nghefn-y-Bedd, Sir y Fflint.
“Nid tan 16 Mai 2020 y daeth eich Gweinidog Iechyd ar y pryd â phrofion cyffredinol ar gyfer staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal.
“Bum niwrnod yn ddiweddarach, ar 21 Mai, lladdodd Mr Hough ei hun.
“Sut ydych yn cyfiawnhau i weithwyr proffesiynol yn y sector gofal, fel Mrs Hough, eich bod yn parhau i wrthod eu galwad am ymchwiliad cyhoeddus sy’n benodol i Gymru i’r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19?
Parhau
Fe ymatebodd y Prif Weinidog yn unig drwy ddweud “Rwy’n gwneud hynny drwy gyfeirio at fy nghytundeb â’r Prif Weinidog, sef arweinydd y blaid y mae’r Aelod yma yn ei chynrychioli.”
Fe gyfeiriodd Mark Drakeford hefyd at y £185 miliwn mae’r llywodraeth wedi buddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd dros y misoedd diwethaf, a bod £90 miliwn wedi ei gyhoeddi ar gyfer y sector ers Mis Medi sy’n sy’n “gydnabyddiaeth fod y pandemig yn parhau i fynd rhagddo”.
Mae Llywodraeth Cymru am weld Ymchwiliad Covid-19 ledled y Deyrnas Unedig.
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ymchwiliad penodol i Gymru ers tro.
Yn dilyn Cwestiynau’r Prif Weinidog fe ddywedodd Mr Isherwood: “Rwy’n cyhuddo’r Prif Weinidog o fod yn ‘Frit’, term a ddefnyddiwyd yn hanesyddol yn Senedd y DU yn erbyn cyn-Brif Weinidogion, sy’n golygu “ddim digon dewr i wneud rhywbeth; ofnus’.”