Mae dyn yn cael triniaeth yn yr ysbyty ôl cael ei drywanu wedi ffrwgwd mewn arcêd yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r Arcêd Frenhinol ychydig ar ôl 8yb y bore ‘ma (dydd Mercher, 10 Tachwedd).

Mae pump o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru bod gan dri o’r pump anafiadau sydd angen sylw meddygol, gan gynnwys dyn 44 oed o Ferthyr Tudful gafodd ei drywanu.

Nid oes yr un o’r anafiadau’n cael eu disgrifio fel rhai sy’n bygwth bywyd.

Caewyd yr arcêd am gyfnod wrth i’r heddlu ymchwilio, a darganfuwyd cyllell sydd bellach yn cael ei harchwilio’n fforensig.

“Sioc”

Dywedodd Heddlu De Cymru bod pump o ddynion rhwng 18 a 44 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o affräe.

“Wrth gwrs mae yna sioc a phryder o fewn y gymuned pan mae digwyddiad fel hyn yn digwydd,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae lefelau troseddau cyllyll yn y Deyrnas Unedig wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf, ac nid yw de Cymru yn wahanol i unrhyw le arall yn hynny o beth.

“Mae Caerdydd yn parhau i fod yn lle diogel ac mae mynd i’r afael â throseddau â chyllyll yn flaenoriaeth i’r llu.”