Dydi’r cytundeb yn nrafft cyntaf COP26 ddim yn ddigon cryf, yn ôl ymgyrchwyr.

Cafodd y drafft ei gyhoeddi fore heddiw (10 Tachwedd), ond dywedodd prif weithredwr Greenpeace Rhyngwladol, Jennifer Morgan, nad yw’r drafft yn “gynllun i ddatrys yr argyfwng hinsawdd”.

“Mae’n gais cwrtais i wledydd, ella, o bosib, wneud mwy flwyddyn nesaf,” meddai.

“Y swydd yn y gynhadledd hon oedd cael y rhif yna lawr i 1.5 gradd selsiws, ond gyda’r ddogfen hwn mae arweinwyr y byd yn gohirio hynny nes flwyddyn nesaf.

“Os mai dyma’r gorau maen nhw’n gallu ei wneud yna does dim rhyfedd bod plant heddiw yn gandryll gyda nhw,” meddai.

Uchelgeisiol

Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno mesurau domestig mwy uchelgeisiol, gan gynnwys rhoi arian tuag at ddatgarboneiddio tai Cymru, meddai Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wrth ymateb i’r drafft.

“Mae drafft cytundeb COP26 heddiw yn gytundeb i ohirio gweithredu ar y mater,” meddai.

Yn ôl Adam Price, sy’n teithio ar y trên i Glasgow heddiw, mae’r bwlch rhwng rhethreg arweinwyr a’r realiti sy’n cael ei gyflwyno yn y drafft yn “syfrdanol”.

Mae Adam Price wedi annog Boris Johnson “i gymryd pob cyfle, a gosod cynllun i gadw’r 1.5 gradd mewn golwg”.

Dywedodd hefyd y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno mesurau domestig mwy uchelgeisiol – gan gynnwys rhoi £3.6 biliwn i ddechrau’r broses o ddadgarboneiddio stoc dai Cymru.

Dinistriol

“Gyda’n coedwigoedd yn llosgi, ein moroedd yn asideiddio, ac ein byd yn cynhesu, does yna ddim mwy o amser. Ni all ein hinsawdd, ein planed, na chymunedau ar y cyrion fforddio aros.

“Does yna ddim dyddiadau pendant na thargedau i stopio defnyddio tanwyddau ffosil yn y ddogfen hon, er gwaethaf dadansoddiadau’r Traciwr Gweithredu ar yr Hinsawdd ddoe a ddangosodd y bydd yr ymrwymiadau sydd wedi eu gwneud ar gyfer 2030 yn golygu bod y byd ar y ffordd i gynhesu 2.4 gradd erbyn 2100.

“Byddai hynny ymhell tu hwnt i’r cap o 1.5 gradd sydd wedi’i osod fel targed gan y Cenhedloedd Unedig, a byddai’n cael effaith ddinistriol ar ein planed.”

Mae’r drafft yn annog gwledydd i ddefnyddio’r flwyddyn nesaf i gryfhau eu cynlluniau ar gyfer cwtogi allyriadau yn ystod y 2020au, a sefydlu strategaethau hirdymor er mwyn cyrraedd allyriadau sero-net erbyn tua chanol y ganrif.

Rhaid gweithredu’n ystyrlon ac effeithiol yn ystod y “degawd allweddol hon” er mwyn atal y blaned rhag cynhesu mwy na 1.5 gradd selsiws, meddai’r ddogfen.

Tlotach

Mae gwyddonwyr wedi rhybuddio bod rhaid cwtogi allyriadau byd-eang o 45% erbyn 2030, ac i sero erbyn canol y ganrif, os am gadw’r cynnydd o dan 1.5.

Galwa’r ddogfen ar wledydd i gyflymu eu hymdrechion i stopio defnyddio glo, ac i wledydd datblygedig ddyblu, o leiaf, y cyfanswm sy’n cael ei roi i helpu gwledydd tlotach i ymdopi â newid hinsawdd.

Wrth i’r gynhadledd nesáu at ei therfyn, mae Boris Johnson wedi annog gwledydd i “wneud popeth posib” i gytuno ar gamau i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae trafodaethau yn parhau er mwyn cytuno ar elfennau ymarferol Cytundeb Paris, y cytundeb hinsawdd byd-eang, gan gynnwys cytuno ar fframweithiau amser ar gyfer ymrwymiadau cenedlaethol i leihau allyriadau, a ffyrdd i wledydd gofnodi cynnydd.

 

Boris Johnoson yn annog gwledydd i “wneud popeth o fewn ein gallu” i gyfyngu cynhesu byd-eang

Y Prif Weinidog yn dychwelyd i’r uwchgynhadledd newid hinsawdd yn Glasgow