Mae cyn-seren Wrecsam, Manchester United a Chymru Mickey Thomas wedi cyhoeddi ei fod yn rhydd o ganser.

Cafodd Thomas, 67, ddiagnosis o ganser y stumog ym mis Ionawr 2019 a dechreuodd driniaeth y mis canlynol.

Dywedodd ym mis Chwefror 2019 ei fod yn bwriadu curo canser “mewn 90 munud heb amser ychwanegol na chiciau o’r smotyn”.

Enillodd Thomas 51 o gapiau dros Gymru a threuliodd dair blynedd yn Manchester United rhwng 1978 a 1981, gan wneud dros 100 ymddangosiad i’r clwb.

Chwaraeodd Thomas hefyd i Everton, Brighton, Stoke, Chelsea, West Brom, Derby a Leeds, yn ogystal â threulio naw tymor gyda Wrecsam ar draws dau gyfnod.

Mae’n enwog am sgorio’r gyda chic rydd wych pan gurodd Wrecsam bencampwyr yr Uwchgynghrair, Arsenal, yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA yn 1992.

Roedd yn 38 oed pan wnaeth ei ymddangosiad olaf yn 1993.

Dyma “ganlyniad gorau’r flwyddyn heb os”, meddai Clwb Pêl-droed Wrecsam.