Bydd dros £450,000 yn cael ei wario i ddiogelu strydoedd Rhondda Cynon Taf.

Mae Comisiynydd Heddlu De Cymru, Alun Michael wedi sicrhau buddsoddiad gwerth £457, 543 o gronfa’r Swyddfa Gartref sydd â ffocws ar wneud strydoedd yn fwy diogel yng Nghymru a Lloegr.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno mwy o gamerâu cylch cyfyng a mwy o oleuadau mewn pedair ardal yn Rhondda Cynon Taf, sef: Canol dref Pontypridd, Parc Beddau, Yr Ynys ac Ystâd Cae Fardre.

Hyder

Yn ôl Mr Michael, sy’n gyn-brifweinidog Cymru, mae’r mesurau hyn yn bwysig i sicrhau bod merched yn teimlo’n hyderus wrth gerdded strydoedd yr ardal.

“Trwy weithio mewn partneriaeth, rydym yn canolbwyntio ar fanteision uniongyrchol o weithredu mesurau fel camerâu cylch cyfyng gan sicrhau gwelliannau hirdymor cynaliadwy o ran diogelwch a hyder menywod a merched,” meddai Alun Michael.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan fod “diogelwch ein trigolion bob amser yn peri gofid mawr i’r cyngor a chroesawn unrhyw fesur i gynyddu eu diogelwch.”

Mae derbynwyr cyllid wedi cyflwyno ceisiadau am gynlluniau arloesol i gynyddu diogelwch mannau cyhoeddus, gan gynnwys prosiectau sy’n pwysleisio newid agweddau ac ymddygiad at fenywod mewn cymunedau lleol.

Gogledd Cymru

Mae Swyddfa Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru wedi nodi ei llwyddiant o ennill cyllid gan y Swyddfa Gartref.

Ar eu cyfrif Twitter mae’r llu yn nodi eu bod yn lansio cynllun yn benodol ar gyfer diogelwch menywod yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint.

Bydd £202,703 yn cael ei glustnodi ar gyfer datblygu cynlluniau ar gyfer ‘Blismona Ataliol’ sy’n golygu eu bod am fynd i’r afael ag achosion y troseddu.

Yn ogystal fe fydd datblygiadau ar fesurau trafnidiaeth gyheoddus i’w gwneud yn fwy diogel yn ogystal â chynlluniau i wella addysg ac ymwybyddiaeth.

Hyd yma, mae’r awdurdodau canlynol wedi derbyn buddsoddiad gan y Swyddfa Gartref:

  • Dyfed Powys: £155,442.881
  • Gwent: £673,181.322
  • Gogledd Cymru: £336,759.501
  • De Cymru: 457,543.001