Mae dynes 28 oed wedi cael ei harestio ar ôl i fachgen gael ei ladd gan gi yng Nghaerffili.

Cafodd Jack Lis, 10 oed, ei ladd gan y ci yng nghartref ei ffrind ym Mhentwyn, Penyrheol, ddydd Llun.

Cafodd ymchwiliad ei lansio gan Heddlu Gwent ac maen nhw wedi cadarnhau heddiw (Tachwedd 10) eu bod wedi arestio menyw ar amheuaeth o fod yng ngofal ci sydd allan o reolaeth, gan achosi anafiadau ag arweiniodd at farwolaeth.

Mae hi wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol, meddai’r llu.

Aeth dau ddyn i orsaf yr Heddlu yn wirfoddol mewn perthynas â’r drosedd.

Ond cafodd un dyn 34 oed o ardal Aberpennar, a dyn 19 oed o ardal Caerffili eu rhyddhau maes o law.

Roedd Jack a’i ffrind ar eu pennau eu hunain pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Cymydog

Ceisiodd ffrind Jack alw am gymorth cymydog a oedd yn byw sawl drws i lawr ar yr un stryd, ond nid oedd y dyn yn gallu atal y ci.

Cyrhaeddodd parafeddygon y safle ychydig cyn 4yp ond doedd dim modd achub y bachgen 10 oed.

Cafodd y ci ei saethu gan swyddogion arfog.

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd, Mark Hobrough fod y gwaith yn parhau i adnabod brîd y ci ac mae pobl yn lleol yn honni ei fod yn fath o American Pitbull.

“Rwy’n deall bod llawer o ddiddordeb am hyn yn ein cymunedau,” meddai.

“Ond mae’n hanfodol bod pobl yn ystyried y cywair a’r iaith a ddefnyddir wrth wneud sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol am hunaniaeth unrhyw un sy’n ymwneud â’r mater hwn fel rhan o’n hymholiadau.”

Mae’r llu yn erfyn ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 101 neu drwy ddanfon neges uniongyrchol at eu cyfrifon Facebook neu Twitter