Mae dyn 41 oed o Sir Benfro wedi marw yn yr ysbyty wedi ymosodiad difrifol arno fis diwethaf.

Bu farw Lee Thomas o bentref Cil-maen ger Penfro heddiw (10 Tachwedd), fis wedi’r ymosodiad yn Tenby Court yn y pentref ddydd Mercher, 13 Hydref.

Mae ei deulu’n ymwybodol, ac yn derbyn cefnogaeth arbenigol, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Ddalfa

Cafodd dyn 32 oed, Nathanial Nuttal o Gil-maen, ei arestio yn y fan a’r lle a’i gyhuddo ag ymosodiad Adran 18., ac mae’n parhau i fod yn y ddalfa.

Mae’r heddlu yn parhau â’u hymchwiliad i’r digwyddiad.

Roedd disgwyl i Nathanial Nuttal ymddangos o flaen y llys eto ddydd Gwener hwn (12 Tachwedd).

Ymchwilio i ymosodiad difrifol yn Sir Benfro

Dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa