Cafodd symbolau Natsïaidd eu gweld ar risiau’r Senedd ddoe (Tachwedd 9) mewn protest yn erbyn ymestyn pasys Covid-19.

Sail y brotest oedd bod y pasys yn cyfyngu ar ryddid personol wrth i’r llywodraeth ddweud y bydd angen pás Covid i fynd i sinemâu a theatrau.

Ond gwelwyd bolltau ‘SS’ ar ymbarél un protestiwr sy’n symbol o oruchafiaeth wyn a neo-Natsïaidd.

Mewn lluniau dros wefannau cymdeithasol mae un o’r protestwyr yn arddangos y symbolau’r ‘SS’ sy’n dweud: “Dywedwch na wrth basbort brechu”.

Cafodd y newyddiadurwr Peter Gillibrand, newyddiadurwr gyda gwasanaeth newyddion LBC, ei syfrdanu gan yr hyn a welodd a rhannodd y llun ar ei gyfrif Twitter:

“Mae gan yr ymbarél hwnnw symbol “SS” Nazi arno mewn rali Pasbort gwrth-Vax yn #Cardiff.

“Mae hyn yn hollol ffiaidd i’w weld. Teimlwch yn rhydd i brotestio ond rhowch y gorau i gymharu’r sefyllfa bresennol i’r Natsïaid.”

Roedd yr SS, dan arweiniad Heinrich Himmler, yn gyfrifol dros heddlu’r Natsïaid yn yr Almaen dan unbennaeth Hitler.

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, fe fabwysiadwyd y symbol gan grwpiau hiliol sy’n credu mewn goruchafiaeth wyn ynghyd â neo-Natsïaid ledled y byd.

Seren

Gwelwyd rhai protestwyr hefyd yn gwisgo bathodynnau yn dweud “Seren Covid”.

Gorfodwyd Iddewon ledled Ewrop i wisgo bathodyn ar ffurf seren felyn.

Fe ddywedodd The Cardiffian ar ei gyfrif Twitter: “Mae bathodynnau gyda ‘Seren COVID’ yn cael eu trosglwyddo gan brotestiwr yn y rali’r prynhawn yma yn erbyn ymestyn pasys COVID i lawr yn y Senedd.”

Roedd arwyddion eraill yn cynnwys “apartheid meddygol” yn ogystal â phosteri oedd yn dweud mai’r “Cyfryngau oedd y feirws”.

Cau’r Senedd

Gyda disgwyl i brotestwyr ymgynnull fe benderfynodd y Llywydd, Elin Jones, gau adeilad Senedd Cymru ar brynhawn dydd Mawrth (Tachwedd 9), er lles diogelwch aelodau a staff.

Dywedodd mai cadw “aelodau, aelodau o’r cyhoedd a staff yn ddiogel” oedd pwrpas hyn, yn seiliedig ar gyngor diogelwch proffesiynol.

Fis diwethaf gwelwyd cyfarwyddyd gan staff diogelwch i beidio â chaniatáu i bobl adael Tŷ Hywel a’r Senedd er lles eu diogelwch ar noson y bleidlais wreiddiol i gyflwyno Pasys Covid yng Nghymru.

Protestiadau

Mae’r protestiadau hyn yn un o nifer ledled Cymru sy’n gwrthwynebu cyfyngiadau Covid-19 sy’n cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru.

Fis Gorffennaf bu yna dorf y tu allan i dŷ’r Prif Weinidog, Mark Drakeford gan godi cwestiynau am ddiogelwch gwleidyddion yng Nghymru.

Bu hefyd protestio y tu allan i swyddfa’r Aelod Seneddol Llafur dros y Rhondda, Chris Bryant yn erbyn cyfyngiadau Covid.

Bydd y rheolau newydd yn dod i rym ddydd Llun (15 Tachwedd).

Fe ofynnodd Golwg360 wrth Lywodraeth Cymru am ymateb.

Protestiadau pasys Covid cyn pleidlais ar ymestyn y cynllun i theatrau a sinemâu

Jacob Morris

Mae Plaid Cymru wedi dweud y byddan nhw’n cefnogi’r cynlluniau