Mae protestwyr wedi ymgynnull ar risiau’r Senedd cyn i bleidlais gael ei chynnal ar ymestyn cyflwyno pasys Covid i sinemâu a theatrau.
Mae’r disgwyl i’r bleidlais basio wedi i Blaid Cymru ddweud y byddan nhw’n cefnogi’r cynnig.
Roedd disgwyl i brotestwyr ymgynnull y tu allan i’r Senedd wrth i’r bleidlais gael ei chynnal, yn sgil pryderon bod y pasys yn cyfyngu ar ryddid personol.
Penderfynodd y Llywydd, Elin Jones i gau adeilad Senedd Cymru ar brynhawn dydd Mawrth (Tachwedd 9), er lles diogelwch aelodau a staff.
Dywedodd mai cadw “aelodau, aelodau o’r cyhoedd a staff yn ddiogel” oedd pwrpas hyn, yn seiliedig ar gyngor diogelwch proffesiynol.
Roedd hi’n ymateb i sylwadau Aelod Llafur o’r Senedd a’r cyn-weinidog Alun Davies, a ddywedodd ei bod hi’n “annerbyniol mewn democratiaeth, heblaw mewn amgylchiadau cul iawn, iawn, fod yr adeilad hwn ar gau i’r bobol rydyn ni’n ceisio eu cynrychioli”.
Fis diwethaf (Hydref 5), fe bleidleisiodd aelodau o drwch blewyn o blaid cyflwyno pasys ar gyfer clybiau nos a digwyddiadau mawr.
Yn dilyn y bleidlais, fe wnaeth grŵp o brotestwyr ymgynnull y tu allan i adeilad Tŷ Hywel ym Mae Caerdydd wedi’r bleidlais dros gyflwyno pasys Covid yng Nghymru.
Roedd staff diogelwch yn gwrthod caniatáu i bobol adael Tŷ Hywel a’r Senedd er lles eu diogelwch.
Pasys Covid
Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i bobol dros 18 oed ddangos eu bod nhw wedi cael eu brechu’n llawn, wedi profi’n negyddol am Covid-19, neu wedi cael y feirws yn y gorffennol, cyn y bydd modd iddyn nhw fynd i mewn i glybiau nos a digwyddiadau mawr yng Nghymru.
Mae gweinidogion Llafur am gyflwyno’r cynllun o Dachwedd 15.
Mae gan Lafur 60 aelod ac ar y cyfan, mae angen cymorth o leiaf un gwleidydd gwrthbleidiol ar Lafur i ennill pleidleisiau.
Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, yn dweud eu bod nhw wedi “nodi’r wythnos diwethaf y byddem yn debygol o gefnogi estyniad cul y tocynnau i sinemâu a theatrau pe bai’r wyddoniaeth yn cefnogi cam o’r fath”.
“Ar ôl edrych ar y dystiolaeth, gan gynnwys yr hyn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, rydym yn barod i gefnogi ymestyn y tocynnau i helpu i liniaru trosglwyddo Covid,” meddai.
Pleidleisio yn erbyn
Ond mae’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu pleidleisio yn erbyn ymestyn y pasys.
Dywedodd Russell George: “Ochr yn ochr â materion gyda hawliau sifil, mae’r llywodraeth Lafur wedi methu â darparu unrhyw dystiolaeth bod pasbortau brechu yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws neu’n cynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r brechlyn,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn dweud y bydd hi’n parhau i wrthwynebu “unrhyw ehangu ar gynllun pasys Covid yng Nghymru” oherwydd cyfyngiadn ar ryddid personol.
“Nerfusrwydd a rhwystredigaeth” ymhlith staff oedd methu gadael y Senedd oherwydd protest
Y Senedd yn pleidleisio o blaid cyflwyno pasys Covid yng Nghymru