Yn ôl yr Aelod o’r Senedd, Samuel Kurtz roedd yna ymdeimlad o “nerfusrwydd a rhwystredigaeth” wrth i aelodau dderbyn cyfarwyddyd gan staff diogelwch y Senedd i beidio â gadael yr adeilad neithiwr (Hydref 5).

Fe wnaeth grŵp o brotestwyr ymgynnull y tu allan i adeilad Tŷ Hywel ym Mae Caerdydd wedi’r bleidlais dros gyflwyno pas Covid yng Nghymru.

“Yn wreiddiol roedd protestwyr yna yn galw am beidio â chyflwyno pas Covid ar risiau’r Senedd drwy’r dydd,” meddai’r AoS, Ceidwadol dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro wrth Golwg 360.

“Ond yna fe ymunodd protestwyr eraill â’r dyrfa yn galw am bethau mwy amgen, ac fe wnaeth hynny imi deimlo ychydig yn nerfus a rhwystredig.”

Roedd staff diogelwch yn gwrthod caniatau i bobl adael Tŷ Hywel a’r Senedd er lles eu diogelwch.

Ddim yn gwbl anniogel

“Tuag awr a chwarter wedi’r bleidlais daeth y newyddion gan yr Heddlu bod hawl gyda ni adael yn ein ceir ond roedd yn rhaid gwneud hynny mewn confoi er lles ein diogelwch.

“Er inni bleidleisio yn erbyn y pas Covid, i bob pwrpas yn cytuno â’r hyn roedden nhw’n protestio yn ei gylch, ond roedden nhw’n cyfeirio eu protest at bob Aelod o’r Senedd a dyna beth wnaeth greu nerfusrwydd yn yr adeilad y gallai pethau fynd allan o reolaeth.

“Doeddwn i ddim yn teimlo’n gwbl anniogel gan fod y staff diogelwch yn dda, ond roedd clywed y protestwyr y tu allan a’u gweld yn rhwystro ni rhag gadael yn rhwystredig.”

“Ond rwy’n poeni am ddiogelwch y Llywydd [Elin Jones] a diogelwch aelodau oedd yng nghanol y dadlau ddoe, gan fod yn rhaid inni sicrhau bod ein gwleidyddion yn ddiogel.

“Er bod pethau fel hyn yn digwydd yn San Steffan, mae angen inni sicrhau bod yr un diogelwch yn cael ei sicrhau i wleidyddion Bae Caerdydd.”

Fe bleidleisiodd aelodau o’r Senedd 28 o blaid i 27 yn erbyn cynnig Llywodraeth Cymru.

Roedd disgwyl y gallai’r ymdrech fethu wedi i Blaid Cymru benderfynu y bydde nhw yn pleidleisio yn erbyn y cynnig yn gynharach heddiw.

‘Problemau technegol’

Fe fethodd Gareth Davies, AoS Ceidwadol dros Ddyffryn Clwyd ag ymuno â’r cyfnod pleidleisio yn rhithiol oherwydd problemau technegol.

Mae methiant Gareth Davies i bleidleisio yn golygu bod y Llywodraeth wedi ennill y bleidlais dyngedfennol o drwch blewyn.

“Rwyf wedi siarad â Gareth [Davies] ac fe ddywedodd ei fod wedi mewngofnodi ond roedd ei gysylltiad we ddim yn gweithio. Felly bai technoleg yw hyn.

“Ac mae hyn yn beth cyffredin, ond rydym ni fel plaid yn credu bod angen inni gael pobl nôl yn y Senedd i bleidleisio yn y ffordd draddodiadol.

“Cawsom ni fel aelodau ein hethol i fod yma yn y bae ac i eistedd yn y siambr ac nid i eistedd o  flaen cyfrifiadur.”

Roedd Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd, i’w glywed yn ceisio ymyrryd ar ran ei gyd-aelod Ceidwadol Gareth Davies oedd yn methu ymuno â’r sesiwn Zoom.

Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi beirniadu datganiad y Ceidwadwyr sy’n galw am bleidleisio yn y cnawd ar faterion pwysig.

Ond mae’r Llywydd, Elin Jones wedi amddiffyn y broses bleidleisio gan ddweud fod aelodau wedi derbyn pob cyfle i fod yn bresennol i bleidleisio.

Gwnaeth Elin Jones gynnig cymorth TGCH ond “doeddem yn methu cael gafael ar yr aelod [Gareth Davies].”

Ychwanegodd y Llywydd: “Er mwyn i Aelodau bleidleisio yn y Senedd, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn bresennol, naill ai yn y Siambr neu ar Zoom.

“Cyfrifoldeb Aelod yw rhoi digon o amser iddynt eu hunain sicrhau eu cysylltiad Zoom mewn pryd ar gyfer pleidleisio, yn union fel y mae ar gyfer unrhyw Aelod sy’n teithio i’r Senedd i bleidleisio.”

Dim bwriad cynnal pleidlais arall ar gyflwyno pasys Covid-19

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen gyda’r cynllun

Y Senedd yn pleidleisio o blaid cyflwyno pasys Covid yng Nghymru

Llywodraeth Cymru wedi ennill pleidlais dyngedfennol ymysg problemau pleidleisio a phrotestiadau y tu allan i’r Senedd