Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu ail-gynnal pleidlais ar gyflwyno pasys Covid-19 yng Nghymru, meddai Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd.
Pleidleisiodd Aelodau o’r Senedd 28-27 o blaid y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) ddoe (5 Hydref).
Ond mae’n debyg nad oedd un aelod Ceidwadol – Gareth Davies AoS – wedi gallu pleidleisio oherwydd problem gyda’i gyswllt Zoom.
Pe bai’r bleidlais wedi bod yn gyfartal, byddai wedi mynd at y Llywydd, Elin Jones, a fyddai wedi gorfod pleidleisio yn erbyn.
Ymhlith y rhai sy’n galw am gynnal pleidlais arall, mae Cymdeithas Diwydiannau Nos Cymru.
Wrth siarad ar raglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru, dywedodd Eluned Morgan y bydd Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen gyda’r cynllun, sy’n dod i rym ddydd Llun (11 Hydref).
Ychwanegodd bod y Llywydd, Elin Jones wedi rhoi cyfle i bob AoS bleidleisio.
“Fe wnaeth hi roi rhif ffôn symudol personol i roi cyfle i’r person yna i alluogi iddyn nhw bleidleisio,” meddai.
“Mae yna reolau, fe wnaeth hi ddilyn y rheolau ac mae’n bwysig ein bod ni’n deall hynny.”
Yn y cyfamser, awgrymodd Rhun ap Iorwerth AoS, mai oherwydd ei fod yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol oedd Gareth Davies ddim wedi gallu pleidleisio.
Dywedodd fod “y system bleidleisio electronig yn gweithio”.
Hybrid Senedd working works. The electronic voting system works. But unless there’s very good reason and/or with advance approval (away on Senedd business, perhaps) I think you should be able to vote only from your offices at home/Senedd/constituency. (Not e.g. party conference.)
— Rhun ap Iorwerth (@RhunapIorwerth) October 5, 2021
“Cyfrifoldeb yr Aelod”
“Cyfrifoldeb yr Aelod” yw sicrhau ei fod yn bresennol ar gyfer pleidleisiau, yn ôl y llywydd Elin Jones.
“Doedd un aelod ddim yn bresennol ar gyfer y bleidlais ar y cynigion ar gyfer pasys Covid-19,” meddai nos Fercher (5 Hydref).
“Fe roddais bob cyfle iddo fod yn bresennol gan gynnwys cymorth TGCh ond doedd hi ddim yn bosib cysylltu â’r Aelod.
“Er mwyn i Aelod bleidleisio yn y Senedd rhaid bod yn bresennol yn y Siambr neu drwy gyfrwng Zoom.
“Cyfrifoldeb yr Aelod yw caniatáu digon o amser i sicrhau’r cysylltiad Zoom ar gyfer pleidleisio – fel ag y mae disgwyl i Aelod sy’n teithio i’r Senedd sicrhau digon o amser i gyrraedd ar gyfer y bleidlais.”
“Siomedig” gyda Phlaid Cymru
Ychwanegodd Eluned Morgan ei bod “yn siomedig dros ben gydag agwedd Plaid Cymru yn y bleidlais” wrth siarad ar ‘Dros Frecwast’.
Roedd wedi edrych yn debygol na fyddai’r bleidlais yn pasio yn gynharach yn y dydd pan gyhoeddodd Plaid Cymru ei bod yn bwriadu pleidleisio yn erbyn oherwydd nad oedd “digon o dystiolaeth ac ychydig o fanylion am sut y bydd yn gweithio’n ymarferol”.
“Pe bydden ni wedi colli’r bleidlais yna, mi fydden ni wedi colli cyfle i ’neud rhywbeth fyddai’n help i ddiogelu pobl Cymru rhag Covid-19,” meddai Eluned Morgan.
Gofid am dwyll
Wrth ymateb i ofidion bod y system y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno yn agored i dwyll, dywedodd Eluned Morgan: “Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru… yn ôl ein harolygon barn ni, ar ein hochr ni ar hwn.
“Maen nhw eisiau gweld bod ni yn cymryd mesurau i ddiogelu nhw.”
Ychwanegodd y gallai unigolion sy’n ceisio cynnig statws Covid-19 ffug wynebu camau cyfreithiol yn erbyn.
Mae golwg360 gofyn i’r Ceidwadwyr Cymru am ymateb i’r ffaith na fydd y bleidlais yn cael ei ail-gynnal.