Mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau’r dull graddio a’r cynlluniau wrth gefn ar gyfer arholiadau haf 2022.

Gydag arholiadau’n dychwelyd, bydd CBAC yn dyfarnu graddau i ddysgwyr flwyddyn nesaf.

Mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi dweud y byddai arholiadau yn yr haf 2022, ac y byddai’r gofynion asesu ar gyfer cymwysterau TGAU, Uwch Gyfannol a Safon Uwch, a Thystysgrif Her Sgiliau CBAC yn cael eu haddasu er mwyn lleihau effaith colli addysgu ac addysg wyneb yn wyneb.

Mae Cymwysterau Cymru wedi holi barn rhanddeiliaid ac ystyried y dulliau sy’n cael eu defnyddio gan reoleiddwyr cymwysterau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Trefniadau

Ar gyfer haf 2022, maen nhw wedi penderfynu dilyn y dull sy’n cael ei defnyddio yn Lloegr er mwyn sicrhau nad yw dysgwyr yng Nghymru dan anfantais o gymharu â dysgwyr dros y ffin, yn enwedig pan mae’r cymwysterau’n cael eu defnyddio i symud at addysg uwch.

Bydd 2022 yn cael ei thrin fel ‘blwyddyn bontio’ i adlewyrchu’r cyfnod adfer wedi’r pandemig a chydnabod bod addysg dysgwyr wedi’i amharu, meddai Cymwysterau Cymru.

Maen nhw’n anelu at i ganlyniadau adlewyrchu pwynt hanner ffordd, yn fras, rhwng 2021 a 2019.

Yn 2023, maen nhw’n anelu at ddychwelyd at ganlyniadau sy’n unol â’r rhai mewn blynyddoedd cyn y pandemig.

Bydd Cymwysterau Cymru yn parhau i weithio gyda rheoleiddwyr eraill dros y Deyrnas Unedig i alinio eu dull ar gyfer haf 2022 fel bod y broses o raddio dysgwyr yn deg.

Fel yn haf 2021, y flaenoriaeth yw bod y graddau y mae dysgwyr yn eu cyflawni yn eu helpu i symud ymlaen i gam nesaf eu taith addysg, neu at gyflogaeth.

Mae Cymwysterau Cymru’n ei gwneud hi’n ofynnol i gyrff dyfarnu ystyried y dull a ddefnyddir ar gyfer TGAU a Safon Uwch wrth osod safonau mewn cymwysterau galwedigaethol.

Pwrpas hyn yw sicrhau nad yw dysgwyr galwedigaethol dan anfantais, medda’r corff.

Cynlluniau wrth gefn

Er y mae disgwyl y bydd cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yn cael eu hasesu yn y ffordd arferol, drwy arholiadau a/neu asesiadau di-arholiadau gydag addasiadau, gallai newidiadau i sefyllfa iechyd y cyhoedd arwain at ganslo’r arholiadau, meddai Cymwysterau Cymru.

Os bydd arholiadau’r cael eu canslo, bydd gofyn i ysgolion a cholegau ddyfarnu’r graddau sy’n cael eu pennu gan y canolfannau i ddysgwyr.

Byddai hynny’n debyg i ddull 2021, ond gyda rhai newidiadau i ystyried y dull o ddysgu eleni.

“Ffordd decaf”

Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: “Bydd llawer o ddysgwyr sy’n astudio ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch yn haf 2022 wedi wynebu aflonyddwch digynsail i’w haddysg dros y 18 mis diwethaf ac rydym am sicrhau bod eu hasesiadau’r haf nesaf mor deg â phosibl. Y flwyddyn nesaf byddwn yn dychwelyd i asesiadau arferol sydd yn darparu dull teg a chyson i ddysgwyr.

“Rydym wedi ystyried y ffordd decaf i ddyfarnu graddau, gan ystyried barn rhanddeiliaid ledled Cymru yn ogystal â gweithio gyda rheoleiddwyr cymwysterau  arall ledled y DU. Bydd ein hymagwedd yn cyd-fynd â’r dull a ddefnyddir yn Lloegr.

“Mae hyn yn golygu y bydd canlyniadau yn 2022 yn adlewyrchu pwynt hanner ffordd yn fras rhwng 2021 a 2019 ac yn darparu chwarae teg i ddysgwyr Cymru, yn enwedig y rhai sy’n gwneud cais am fynediad i brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig.

“Mae hwn yn gyfnod ansicr ac os bydd amgylchiadau’n newid, a bod y gyfres arholiadau’n cael ei chanslo rydym yn darparu cynlluniau wrth gefn a fydd yn caniatáu i ysgolion a cholegau ddyfarnu graddau mewn dull sy’n seiliedig ar yr hyn a ddefnyddiwyd yn haf 2021.

“Byddwn yn gweithio gyda CBAC i hysbysu ysgolion a cholegau o’r cynlluniau hyn fel bod pawb yn glir ynghylch beth sydd angen ei wneud.

“Rydym yn gwybod y gall dysgwyr fod yn bryderus a bod ganddynt bryderon ynghylch dychwelyd i arholiadau, a dyna pam rydym yn cynllunio ystod o gyfathrebu i’w cefnogi nhw.”