Bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn cael pas Covid-19 i gael mynediad i ddigwyddiadau mawr a chlybiau nos.
Bydd aelodau’r Senedd yn penderfynu yn hwyrach heddis (5 Hydref) a ddylid ei gwneud hi’n orfodol dangos pas ai peidio
Dan y cynlluniau, bydd rhaid dangos bod rhywun wedi’i frechu’n llawn neu wedi cael prawf negyddol yn ddiweddar er mwyn cael mynediad i leoliadau lle mae risg uwch o ddal Covid-19 o 11 Hydref.
Mae cynrychiolwyr y diwydiant clybiau nos wedi dweud bod eu “pryderon difrifol” ynghylch y mesurau’n cael eu hanwybyddu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu’r cynllun.
Er mwyn i’r mesur gael ei basio, mae’n rhaid cael cefnogaeth o leiaf un aelod o’r wrthblaid.
Tystiolaeth
Wrth gadarnhau bwriad Plaid Cymru i bleidleisio yn erbyn, dywedodd Llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd, Rhun ap Iorwerth AoS: “Ers dechrau’r pandemig hwn, mae Plaid Cymru wedi bod yn barod i gefnogi cyflwyno ystod o fesurau i reoli a chyfyngu ar drosglwyddo’r feirws – hyd yn oed mewn sefyllfaoedd lle mae cyfyngiadau eithaf difrifol weithiau wedi’u gosod ar ein rhyddid.
“Pan rydym wedi cefnogi cyfyngiadau, rydym wedi ein hargyhoeddi bod y dystiolaeth yn glir ar yr effaith gadarnhaol y byddai’r mesurau hynny’n ei chael, ac y gellir eu gweithredu’n ymarferol.
“Yn anffodus, mae’r rheoliadau a gynigir gan Lywodraeth Cymru heddiw yn codi mwy o gwestiynau nag y maent yn rhoi atebion.
Cwestiynau
“Nid oes digon o dystiolaeth ac ychydig o fanylion am sut y bydd yn gweithio’n ymarferol.
“Rydym wedi gofyn llawer o gwestiynau ac nid ydym wedi cael y sicrwydd rydym wedi’i geisio.
“A dyna pam y teimlwn na allwn gefnogi’r rheoliadau hyn heddiw.
“Nid ydym yn pleidleisio yn erbyn oherwydd materion o egwyddor.
“Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru dynnu’r cynnig hwn yn ôl a’i gwneud yn glir y byddem yn cyfrannu at drafodaethau ar sut y gellid cyflwyno rhywbeth mwy cadarn, tystiolaeth well, a chydag eglurder ar oblygiadau.
“Mae’r cynnig hwnnw’n dal ar agor.”