Bydd aelodau’r Senedd yn penderfynu heddiw (5 Hydref) a ddylid ei gwneud hi’n orfodol dangos pas Covid-19 i gael mynediad i ddigwyddiadau mawr a chlybiau nos.

Dan y cynlluniau, bydd rhaid dangos bod rhywun wedi’i frechu’n llawn neu wedi cael prawf negyddol yn ddiweddar er mwyn cael mynediad i leoliadau lle mae risg uwch o ddal Covid o 11 Hydref.

Mae cynrychiolwyr y diwydiant clybiau nos wedi dweud bod eu “pryderon difrifol” ynghylch y mesurau’n cael eu hanwybyddu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu’r cynllun.

Mae disgwyl i Blaid Cymru benderfynu sut i bleidleisio mewn cyfarfod fore heddiw.

Er mwyn i’r mesur gael ei basio, mae’n rhaid cael cefnogaeth o leiaf un aelod o’r wrthblaid.

Manylion

Mae’n bosib cael pas yng Nghymru drwy ddefnyddio gwefan, ac mae’r system wedi cael ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau mawr ers tri mis.

Gall unrhyw un sydd dros 16 oed ac sydd wedi cael ei frechu’n llawn yng Nghymru neu yn Lloegr, neu sydd wedi cael prawf llif unffordd negyddol o fewn y 48 awr ddiwethaf, gael pas.

Bydd y pasys yn orfodol i bobol dros 18 oed er mwyn cael mynediad i glybiau nos, digwyddiadau heb seddau dan do ar gyfer mwy na 500 o bobol, digwyddiadau tu allan heb seddau gyda mwy na 4,000 o bobol, ac unrhyw ddigwyddiad gyda dros 10,000 o bobl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu ei gwneud hi’n anghyfreithlon i ffugio canlyniadau prawf negyddol.

Mae’r Alban wedi cyflwyno pasbortau brechu, a bydden nhw’n dod yn orfodol ar 18 Hydref er mwyn rhoi amser i fusnesau ddod i arfer a dod dros unrhyw broblemau posib.

Yno, mae gofyn i bobol ddefnyddio ap Covid ond bu problemau technolegol gyda’r ap ddydd Gwener (1 Hydref) pan gafodd ei lansio.

“Peryglus”

Yn ôl gwrthwynebwyr, gan gynnwys Cymdeithas Diwydiannau’r Nos Cymru, byddai’r mesurau’n cael effaith negyddol ar fusnesau, ac maen nhw’n gosod sail “beryglus” ar gyfer y dyfodol.

“Rydyn ni’n siomedig bod Llywodraeth Cymru’n teimlo’r angen i wneud pasbortau Covid yn orfodol ar y pwynt hwn,” meddai’r Gymdeithas.

“Rydyn ni dal yn teimlo y bydd y mesurau hyn yn cael effaith negyddol ar fusnesau, a bydden nhw’n creu dryswch sylweddol yn y diwydiant.”

Dywedodd Jodie Beck, o’r grŵp ymgyrchu dros hawliau dynol, Liberty: “Er ein bod ni’n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio eithrio’r rheiny sydd heb dderbyn brechlyn rhag mynychu digwyddiadau mawr, mae cyflwyno pas brechu yng Nghymru dal yn gosod sail beryglus ar gyfer y dyfodol.

“Mae pasbortau brechu dan unrhyw enw yn golygu mwy o orfodaeth a gwahanu, ac mae’n achosi perygl o greu cymdeithas dwy haen, lle mai hawliau ac annibyniaeth pobol sy’n cael eu gwthio i’r cyrion yn barod fydd yn cael eu heffeithio waethaf.”

Wrth drafod atal rhyddid sifil pobol mewn perthynas â’r pas Covid, dywedodd Mark Drakeford mewn cynhadledd i’r wasg bod gan y miloedd o bobol sydd wedi dal Covid-19 yn ddiweddar hawl ehangach i gael mesurau i’w cadw’n sâff hefyd a bod y pas Covid yn trio dod o hyd i gydbwysedd rhwng rhyddid sifil pobol a rhyddid ehangach y gymdeithas.

Angen dangos Pas Covid i fynd i glwb nos a gemau pêl-droed a rygbi sy’n denu torf o 10,000+

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd cyflwyno’r gofyniad i ddangos Pàs COVID yn helpu i gadw lleoliadau a digwyddiadau ar agor”