Bydd cannoedd o blismyn ychwanegol ar strydoedd Llundain dros y chwe mis nesaf mewn ymdrech i wneud i fenywod deimlo’n fwy diogel, meddai Heddlu’r Metropolitan.
Mae’r llu wedi cyhoeddi y bydd 650 swyddog ychwanegol ar strydoedd y brifddinas, gyda 500 ohonyn nhw wedi’u lleoli mewn cymunedau prysur yn barhaol a 150 yn ymuno â wardiau Llundain fel plismyn lleol ar batrôl.
Dywedodd Heddlu’r Metropolitan bod y swyddogion ychwanegol yn rhan o ymgyrch i leihau niferoedd y troseddau treisgar, gan gynnwys trais domestig a thrais yn erbyn menywod a merched, yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard gan Wayne Couzens, wrth iddi gerdded adref yn Llundain.
“Heddlua lleol”
Bydd y swyddogion newydd yn gyfuniad o staff newydd fydd yn cael eu recriwtio fel rhan o ymgyrch recriwtio genedlaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a gweithwyr wedi’u hadleoli.
Bydd y criw cyntaf o blismyn yn cael eu lleoli ar y strydoedd erbyn diwedd 2021, ac mae disgwyl i’r 19 tîm fod mewn lle erbyn gwanwyn 2022.
“Mae ein twf yn caniatáu i ni gynyddu ein presenoldeb mewn cymunedau prysur a chanol trefi a chanolbwyntio mwy fyth ar amddiffyn pobol a datrys y problemau hirdymor gyda throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol rydyn ni’n gwybod y mae pobol yn poeni amdanyn nhw – fel troseddau treisgar, a thrais ac aflonyddu yn erbyn menywod a merched,” meddai Nick Ephgrave, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu’r Metropolitan.
“Mae heddlua lleol wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud ac rydyn ni’n gwybod ein bod ni gymaint mwy effeithlon os ydyn ni mewn cymunedau a chymdogaethau, yn gweithio ar y cyd â Llundeinwyr, yn gwrando a chysylltu â nhw, yn mynd i’r afael â’r materion sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n anniogel.
“Rydyn ni eisiau i gymunedau weld a dod i adnabod eu heddlu lleol yn gyson, fel eu bod nhw’n eu hymddiried a chael hyder ynddyn nhw, yn gwybod eu bod nhw yno i’w hamddiffyn a’u cadw nhw’n ddiogel.”