Bydd Heddlu’r Met yn lansio adolygiad yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard gan yr heddwas, Wayne Couzens.

Fe fyddan nhw hefyd yn cyflogi swyddog ymgynghori er mwyn arwain yr adolygiad, a bydd dyletswyddau’r unigolyn hynny’n cynnwys monitro diwylliant mewnol y llu.

Roedd Cressida Dick, Comisiynydd Heddlu’r Met, wedi dod o dan bwysau i ymddiswyddo ar ôl i Couzens dderbyn dedfryd o fywyd yn y carchar wythnos diwethaf, gan godi cwestiynau ynglŷn â safonau’r heddlu.

Ysgrifennodd hi yn yr Evening Standard, y byddai’r swyddog newydd yn ffigwr blaenllaw yn yr heddlu, ac yn gweithio ochr yn ochr â hi ar ddelio â llygredd o fewn y sefydliad.

Safonau

“O fewn wythnos rwy’n gobeithio cyhoeddi y bydd ffigwr blaenllaw yn cael ei benodi i arwain adolygiad o’n safonau proffesiynol a’n diwylliant mewnol,” meddai Cressida Dick.

“Byddan nhw’n edrych ar ein hyfforddiant, arweinyddiaeth, prosesau, systemau a safonau ymddygiad, ac yn archwilio achosion lle mae swyddogion wedi gadael y cyhoedd i lawr.

“Bydd y person hwn hefyd yn gweithio ochr yn ochr â fi, gan herio fy uwch dîm a’n harweiniad ar safonau, llygredd, camymddwyn rhywiol a sut mae’r Met yn ymateb pan aiff pethau o chwith.”