Mae staff cynghorau sir ac ysgolion yng Nghymru am bleidleisio ynghylch gweithredu diwydiannol oherwydd cynnig codiadau cyflogau “annigonol.”

Pleidleisiodd mwyafrif llethol aelodau undeb Unison i wrthod cynnig o 1.75%, gan ddweud bod hynny’n llawer yn is na’r 10% yr oeddent eisiau.

Mae’r undeb hefyd yn cynrychioli staff cynghorau ac ysgolion yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, lle bu cynnig tebyg.

Bydd yr aelodau nawr yn pleidleisio ynghylch gweithredu’n ddiwydiannol er mwyn cefnogi’r ymgyrch am daliadau uwch.

Dywedodd Mike Short, dirprwy bennaeth llywodraeth leol Unison, bod gweithwyr wedi ei “gwneud eu teimladau’n glir.”

Arwyr

“[Y gweithwyr hyn] yw arwyr di-glod y pandemig,” meddai.

“Maen nhw wedi gweithio’n ddiflino ac yn aml mewn perygl i’w hiechyd eu hunain i wasanaethu eu cymunedau,” meddai.

“Parhaodd y staff i weithio trwy gydol y cyfnodau clo, yn cadw cymunedau pobl yn lân ac yn ddiogel, sicrhau bod ysgolion yn aros ar agor neu ofalu am y rhai mwyaf agored i niwed.

Gostwng

“Er hynny, mae gweithwyr y cyngor ac ysgolion wedi gweld eu cyflogau’n gostwng chwarter ers 2010.

“Mae’r cynnydd diweddar mewn costau byw yn golygu bod eu cyflogau’n cwympo mwy a mwy.

“Mae cynnig o ddim ond 1.75% yn hollol annigonol i weithwyr sydd eisoes ymhlith y rhai ar y cyflogau isaf yn y wlad.

“Dylai eu hymdrechion a’u haberthion gael eu cydnabod a’u gwobrwyo’n well.”