Mae dyn a lofruddiodd ei fam gyda morthwyl, a pharhau i fyw yn y ei chartref gyda’r corff am ddeufis, wedi’i ddedfrydu i garchar am oes.

Bydd Dale Morgan, 43, o Honeyborough Green, Neyland, Sir Benfro yn treulio o leiaf 21 mlynedd a chwe mis yn y carchar ar ôl cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe am lofruddio Judith Rhead.

Cafodd ei chorff ei ddarganfod yn ei chartref yn Stryd y Farchnad, Doc Penfro ddydd Sadwrn, 20 Chwefror 2021, gyda bag plastig dros ei phen.

Roedd hi wedi cael ei tharo ar ei phen 14 gwaith gyda morthwyl a gafodd ei ddarganfod gan Heddlu Dyfed-Powys ar y llawr wrth ymyl ei chorff.

Cafodd Dale Morgan ei arestio’n hwyrach y diwrnod hwnnw, ac mae e wedi bod yn y ddalfa ers hynny. Plediodd yn euog i’w llofruddiaeth mewn gwrandawiad ar 31 Awst.

Erchyll

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Jayne Butler fod nifer o adrannau ar draws y llu wedi gweithio gyda’i gilydd er mwyn cael cyfiawnder i Judith Rhead a’i theulu.

“Dioddefodd Judith Rhead ymosodiad erchyll,” meddai Jayne Butler.

“Mae’r ffaith mai ei mab oedd yn gyfrifol a’i fod wedi digwydd yn ei chartref hi ei hun yn ychwanegu at y creulondeb a’r arswyd aeth hi drwyddo.”

Cafodd Judith Rhead ei gweld yn fyw am y tro diwethaf ar 11 Rhagfyr, ac mae lle i gredu ei bod hi wedi cael ei llofruddio cyn y Nadolig gan fod anrhegion heb eu hagor dal yn ei chartref.

Celwydd

Fe wnaeth Dale Morgan barhau i fyw yn fflat ei fam wrth geisio cuddio’r llofruddiaeth, gan gerdded ei chi a dweud celwydd wrth ffrindiau oedd yn poeni amdani.

Ar ôl iddo gael ei arestio, atebodd gwestiynau’r heddlu gyda ‘dim sylw’, gan ddweud ychydig iawn er mwyn esbonio’r hyn ddigwyddodd a pam.

Fodd bynnag, ar 23 Chwefror 2021, wrth aros i ymddangos o flaen llys drwy gysylltiad fideo, fe wnaeth y diffynnydd ddweud wrth swyddog “â bod yn onest, mae’n rhyddhad bod pethau allan o fy nwylo i nawr, mewn ffordd”.

Er na wnaeth yr heddlu ddod o hyd i gymhelliad pendant, maen nhw wedi gallu profi bod Dale Morgan yn defnyddio cyfrif banc Judith Rhead a’i bod hi’n credu ei fod yn cymryd ei chyffuriau presgripsiwn.

Problemau

Fe wnaeth y barnwr, Paul Thomas, ddweud ei fod yn credu bod Dale Morgan wedi lladd ei fam ar ôl iddi ei herio ynghylch dwyn pres.

“Ti oedd unig blentyn dy fam. Roedd hi wrth ei fodd â chdi, fe wnaeth hi dy gefnogi hyd yn oed pan wnes di ddwyn ganddo o’r blaen,” meddai’r barnwr.

“Fe wnaeth hi drio dy helpu di gyda dy broblemau. Roedd hi’n poeni dy fod di’n camddefnyddio sylweddau, ac fe wnaeth hi adael i ti fyw gyda hi er gwaethaf yr amharu a’r poen meddwl y byddai dy bresenoldeb di yn y tŷ wedi achos iddi, mae’n siŵr.

“Yn fyr, ti oedd ei holl fywyd, fwy neu lai. Fe wnes di ad-dalu’r 43 mlynedd o ymrwymiad drwy ei churo i farwolaeth â morthwyl. Dim unwaith, dim dwywaith, dim llai na 14 gwaith ar ei phen, gyda’r bwriad o’i lladd.

“Hyd yn oed ar ôl i ti ei lladd hi, fe wnaeth dy agwedd ddidrugaredd barhau, ac fe wnes di glymu bag plastig o amgylch ei phen a gadael ei chorff difywyd yn ei gwman yn y llofft.

“I guddio’r hyn wnes di, fe wnes di raffu celwyddau am ei thynged, troi pobol oedd yn poeni amdani ymaith, a dweud straen amrywiol.”

Dychrynllyd

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd y teulu eu bod nhw “methu dod i dermau” gyda’r hyn ddigwyddodd i Judith Rhead, ac na fydden nhw byth.

“Roedd Judith yn ddynes uchel ei pharch yn y gymuned a gyda chylch eang o ffrindiau.

“Roedd hi’n berson mor addfwyn, nad oedd yn haeddu marw mewn ffordd mor ddychrynllyd.

“Mae hynny’n rhywbeth fydd yn blino ein teulu am weddill ein bywydau.”

Mae’r teulu’n gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod hwn.