Mae dyn 43 oed wedi cyfaddef iddo ladd ei fam 68 oed yn Sir Benfro.

Plediodd Dale Morgan yn euog pan aeth gerbron Llys y Goron Abertawe i wynebu’r cyhuddiad o lofruddio Judith Rhead yn Noc Penfro rhwng Rhagfyr y llynedd a mis Chwefror eleni.

Cadarnhaodd Morgan ei enw a’i ble fore heddiw (dydd Mawrth, Awst 31).

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar Hydref 4, ac mae’r barnwr Paul Thomas wedi dweud y dylai ddisgwyl oes o garchar.

Dyn wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes, 68, yn Noc Penfro

Bydd Dale Morgan, 43, yn mynd gerbron ynadon ddydd Iau